Y Cod Ymarfer ar gyfer arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 3 (Asesu anghenion unigolion) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Cyhoeddwyd o dan Adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

(teitl byr: cod ymarfer ar gyfer asesu anghenion unigolion)

 

Cyflwyniad

1.            Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol â’r gofynion a nodir yn y cod hwn. Nid yw adran 147 (Gwyro oddi wrth ofynion mewn codau) yn gymwys i unrhyw ofynion a nodir yn y cod hwn. At hynny, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried unrhyw ganllawiau a nodir yma.

 

2.            Yn y cod hwn, mae gofyniad yn cael ei fynegi fel rhaid neu ni chaniateir/rhaid...beidio. Mae canllawiau yn cael eu mynegi fel gall neu dylai / ni ddylai.

 

3.            Mae’r cod ymarfer hwn yn cynnwys canllawiau ar y dyletswyddau sydd wedi’u cynnwys yn adrannau 19-29 o’r Ddeddf a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015 a wnaed o dan adran 30 o’r Ddeddf (“y rheoliadau asesu”).

 

4.            Mae’r cod ymarfer hwn ar gyfer asesu wedi’i gysylltu’n sylfaenol â’r cod ymarfer ar gyfer cymhwysedd, gan fod y ddau god yn hollbwysig mewn perthynas â chynllunio a chyflawni system newydd ar gyfer cael mynediad at wasanaethau gofal a darparu gwasanaethau gofal.

 

5.            Dylid tybio bod cyfeiriadau at ganlyniadau llesiant personol a chanlyniadau personol mewn codau ymarfer o dan y Ddeddf yn golygu’r un fath.

 

Diben

6.            Mae’r cod hwn yn cyflwyno:

·         Proses ar gyfer asesu anghenion unigolyn am ofal a chymorth, neu gymorth yn achos gofalwr.

·         Proses asesu a fydd yn gymwys i bawb – plant, oedolion a gofalwyr.

·         Proses adolygu ac ailasesu a fydd yn gymwys i asesiadau.

 

7.            Wrth wraidd y newidiadau hyn mae’r angen am drefniadau mwy effeithiol y bydd pob ymarferydd yn eu defnyddio a’u deall wrth weithio gydag unigolion. Mae sicrhau bod ymarferwyr yn gweithio gyda phobl i ganfod beth sy’n bwysig iddynt, a nodi eu cryfderau a’u galluoedd, yn ganolog i’r system. Bydd gwella’r trefniadau hyn yn lleol a sicrhau arferion mwy cyson ledled Cymru yn helpu i sicrhau’r gofal iawn, ar yr adeg iawn, yn y man iawn.

 

8.            Mae’r cod ymarfer hwn:

·         yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth â phobl a’u gofalwyr i adeiladu ar eu cryfderau a deall eu hanghenion, i’w cynorthwyo a’u galluogi i fyw bywydau llawn a sicrhau eu lles.

·         yn cefnogi hawl pobl i gael trafodaethau parchus am eu llesiant, ac i gyfrannu’n llawn at benderfyniadau am eu gofal.

·         yn symleiddio ac yn lleihau beichiau gweinyddol fel bod pobl yn cael gwell gwasanaethau a gwell canlyniadau. Bydd ymarferwyr yn gallu treulio mwy o amser yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl er mwyn deall eu hanghenion yn well a gweithredu yn gynt i’w helpu.

·         yn cynorthwyo ymarferwyr i arfer eu crebwyll proffesiynol gan weithio mewn partneriaeth â phobl i gytuno ar atebion gorau er lles yr unigolyn.

·         yn sbarduno ymarfer integredig ac yn dylanwadu ar y berthynas rhwng ymarferwyr, a’r berthynas rhwng ymarferwyr a’r unigolion sy’n cael cymorth ganddynt. Bydd yn arwain at ganlyniadau gwell i unigolion; gweithlu brwdfrydig ac yn cynyddu hyder y cyhoedd yn eu cysylltiad ag ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

·         yn disgrifio sut y dylai awdurdodau lleol, gan weithio gyda’u cymunedau a gyda’u partneriaid yn y sector iechyd a’r trydydd sector, sicrhau bod ganddynt drefniadau integredig ar gyfer cynllunio ac adolygu asesiadau, gofal a chymorth, a bod y trefniadau hyn yn ategu’r agenda ehangach ac yn integreiddio gofal cymdeithasol a gofal iechyd yn ehangach.

·         yn disgrifio sut mae’r broses asesu’n gallu canolbwyntio ar anghenion pobl a’u cryfderau hefyd, a helpu pobl i gyfrannu at eu canlyniadau personol eu hunain.

 

Cyd-destun

9.            Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu’r fframwaith statudol ar gyfer cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i integreiddio gwasanaethau cymdeithasol i gynorthwyo pobl o bob oed, a chynorthwyo pobl fel rhan o deuluoedd a chymunedau. Bydd yn trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithas eu darparu, yn bennaf drwy hybu annibyniaeth pobl er mwyn rhoi llais cryfach iddynt mewn penderfyniadau amdanynt a rhoi mwy o reolaeth iddynt dros eu bywydau. Bydd integreiddio a symleiddio’r gyfraith hefyd yn sicrhau mwy o gysondeb ac eglurder i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, eu gofalwyr, staff awdurdodau lleol a’u sefydliadau partner, y llysoedd a’r farnwriaeth. Mae’r Ddeddf yn hybu cydraddoldeb, gwelliannau mewn ansawdd gwasanaethau ac ansawdd y wybodaeth mae pobl yn ei chael, a ffocws cyffredin ar atal ac ymyriadau cynnar.

 

10.         Mae’r Ddeddf yn cyflwyno newidiadau i’r ffordd y caiff asesiadau eu darparu ar gyfer pob unigolyn a theulu a’r ffordd y caiff asesiadau eu darparu ar gyfer cynorthwyo gofalwyr. Y nod yw sicrhau arferion mwy cyson ledled Cymru a defnydd mwy cymesur o asesiadau fel bod pobl yn gallu cael y cymorth maent ei angen ar yr un pryd â lleihau beichiau gweinyddol.

 

11.         Diben asesiad gofal a chymorth yw gweithio gydag unigolyn, gofalwr a theulu, ac unigolion perthnasol eraill i ddeall eu hanghenion, eu gallu a’u hadnoddau, a’r canlyniadau maent angen eu sicrhau, ac yna penderfynu ar y ffordd orau o’u cynorthwyo i’w cyflawni. Wrth wraidd hyn mae trafodaeth am hybu annibyniaeth a datblygiad drwy roi cymaint o reolaeth â phosibl i bobl dros eu bywydau bob dydd a helpu i fynd i’r afael ag anawsterau neu broblemau sy’n eu rhwystro rhag gwneud hyn. Mae’n hanfodol galluogi pobl i benderfynu ar eu canlyniadau personol eu hunain, a sut gallant sicrhau’r canlyniadau hynny.

 

12.         Dyma fodel o asesu a chynllunio gofal lle mae’n rhaid i’r broses asesu ddechrau gyda’r unigolyn a deall ei gryfderau a’i alluoedd a beth sy’n bwysig iddo, a sut mae ei deulu, ei ffrindiau a’r gymuned leol yn chwarae rhan yn ei fywyd i’w helpu i gyflawn ei ganlyniadau personol. Mae hyn yn cyd-fynd â’r egwyddorion sy’n sail i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Dyma ddull o asesu a chynllunio gofal sy’n cydnabod y gellir diwallu anghenion nid yn unig drwy ddarparu gwasanaethau ond hefyd drwy roi cefnogaeth a chymorth i alluogi pobl i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Er enghraifft, drwy helpu pobl i fanteisio ar wasanaethau lleol eu hunain neu helpu pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd arnynt eu hangen.

 

13.         Rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cyfartal yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol. Gall pob unigolyn wahodd rhywun o’i ddewis i’w helpu i gymryd rhan yn llawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau. Gall ffrindiau, perthnasau neu rwydwaith cefnogi ehangach yr unigolyn roi’r cymorth hwn.

 

14.         Mae’r cod ymarfer pwrpasol ar gyfer eiriolaeth o dan Adran 10 o’r Ddeddf yn nodi’r swyddogaethau lle mae’n rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â’r unigolyn, benderfynu sut gallai eiriolaeth gynorthwyo’r broses o benderfynu ar ganlyniadau personol unigolyn a’u sicrhau; ynghyd â’r amgylchiadau pan mae’n rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol. Rhaid i weithwyr proffesiynol ac unigolion sicrhau bod penderfyniadau am yr angen am eiriolaeth yn rhan annatod o’r dyletswyddau perthnasol o dan y Cod hwn.

 

Y Ddyletswydd i Asesu

15.         Rhaid i awdurdod lleol gynnig asesiad i:

 

·         Unrhyw oedolynpan fo’n ymddangos i’r awdurdod hwnnw fod yr oedolyn o bosibl angen gofal a chymorth:

 

o   Rhaid i awdurdod lleol asesu a yw oedolyn angen gofal a chymorth, ac os felly, beth yw’r anghenion hynny.

 

o   Mae’r ddyletswydd yn berthnasol mewn perthynas ag oedolion sy’n preswylio fel arfer yn yr ardal ac i oedolion eraill yn yr ardal, beth bynnag fo lefel yr anghenion am ofal a chymorth a lefel adnoddau ariannol yr unigolyn. Rhaid i’r asesiad ganolbwyntio ar y canlyniadau y mae’r unigolyn yn dymuno eu sicrhau mewn bywyd o ddydd i ddydd ac i ba raddau y gallai darparu gofal a chymorth, gwasanaethau ataliol, neu ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny.

 

o   Rhaid i’r asesiad ei hun fod yn gymesur ag angen a dylai’r oedolyn, a gofalwr yr oedolyn os yw hynny’n ymarferol, gael eu cynnwys yn yr asesiad.

 

·         Unrhyw blentynpan fo’n ymddangos i’r awdurdod hwnnw y gall fod angen gofal a chymorth ar blentyn yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn.

 

o   At ddiben trothwy’r ddyletswydd i asesu anghenion plentyn, tybir bod plentyn anabl angen gofal a chymorth yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn (gweler adran 21(7) o’r Ddeddf).

 

o   Rhaid i awdurdod lleol asesu a yw plentyn angen gofal a chymorth ac os felly, beth yw’r anghenion hynny. Wrth gyflawni’r asesiad rhaid i’r awdurdod lleol asesu anghenion datblygiadol y plentyn, a cheisio nodi’r canlyniadau y dymuna’r plentyn eu sicrhau (i’r graddau y mae’n meddwl bod hyn yn briodol yn unol ag oedran a dealltwriaeth y plentyn), a’r canlyniadau y dymuna’r unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn eu sicrhau mewn perthynas â’r plentyn (i’r graddau y mae’n meddwl bod hyn yn briodol yn unol â’r angen i hyrwyddo llesiant y plentyn). Rhaid asesu i ba raddau y gallai darparu gofal a chymorth, gwasanaethau ataliol, neu ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny.

 

o   Mae’r ddyletswydd yn berthnasol mewn perthynas â phlant sy’n preswylio fel arfer yn yr ardal a phlant eraill yn yr ardal, beth bynnag fo lefel yr angen am ofal a chymorth a lefel adnoddau ariannol y plentyn, neu unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

 

o   Rhaid i’r asesiad ei hun fod yn gymesur ag angen a chynnwys y plentyn ac unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

 

·         Unrhyw ofalwrpan fo’n ymddangos i’r awdurdod hwnnw fod angen cymorth ar y gofalwr:

 

o   Rhaid i awdurdod lleol asesu a oes angen cymorth ar ofalwr (neu a yw’n debygol o fod angen cymorth yn y dyfodol) ac os felly, beth yw’r anghenion hynny neu beth maent yn debygol o fod. Diffinnir gofalwr yn y Ddeddf fel person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl. Yn gyffredinol, ni ddylai gofalwyr proffesiynol sy’n cael eu talu gael eu hystyried fel gofalwyr at ddibenion y Ddeddf, nac ychwaith bobl sy’n darparu gofal fel rhan o waith gwirfoddol. Fodd bynnag, gall awdurdod lleol drin person fel gofalwr hyd yn oed os na fyddai’n cael ei ystyried fel gofalwr fel arall os yw o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny yng nghyd-destun y berthynas ofalu. Gall awdurdod lleol drin person fel gofalwr mewn achosion lle nad yw’r berthynas ofalu yn un bennaf fasnachol.

 

o   Y trothwy ar gyfer y ddyletswydd yw os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol bod angen cymorth ar y gofalwr. Mae’r ddyletswydd i asesu yn berthnasol beth bynnag fo barn yr awdurdod am lefel y cymorth sydd ei angen ar y gofalwr neu adnoddau ariannol y gofalwr neu adnoddau ariannol y sawl sydd angen gofal.

 

o   Rhaid i’r asesiad gynnwys asesiad o’r graddau y mae’r gofalwr yn gallu ac yn fodlon darparu’r gofal ac y bydd yn parhau i allu darparu’r gofal a bod yn fodlon gwneud hynny, y canlyniadau y dymuna’r gofalwr eu sicrhau iddo’i hun ac, os mai plentyn yw’r gofalwr, y canlyniadau y mae’r person(au) â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn hwnnw yn dymuno eu sicrhau ar ei gyfer a’r graddau y gallai cymorth, gwasanaethau ataliol, neu ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy helpu i sicrhau’r canlyniadau a nodwyd. Rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys y gofalwr yn yr asesiad ac, os yw’n ymarferol, y sawl y mae’r gofalwr yn darparu cymorth iddo neu’n bwriadu darparu cymorth iddo.

o   Rhaid i’r asesiad ystyried hefyd a yw’r gofalwr yn gweithio neu’n dymuno gweithio ac a yw’n cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu weithgareddau hamdden neu’n dymuno gwneud hynny. Os mai plentyn yw’r gofalwr, rhaid i’r asesiad ystyried ei anghenion datblygiadol a’r graddau y mae’n briodol i blentyn ddarparu’r gofal. Dylai hyn ysgogi’r awdurdod lleol i ystyried a yw gofalwr sy’n blentyn yn blentyn sydd angen gofal a chymorth ei hun mewn gwirionedd ac, os felly, dylai gael ei asesu o dan adran 21 o’r Ddeddf.

 

o   Os yw’r gofalwr yn oedolyn ifanc rhwng 16 a 25 oed, rhaid i’r asesiad gynnwys asesiad o unrhyw gamau pontio y mae’r gofalwr yn debygol o’u cymryd i addysg bellach neu uwch, cyflogaeth neu hyfforddiant yn awr neu yn y dyfodol a rhoi sylw priodol i’r hyn y mae’r oedolyn ifanc yn dymuno cymryd rhan ynddo.

 

Y Broses Asesu

16.         Mae gan unrhyw unigolyn neu deulu sydd angen gofal a chymorth yr hawl i asesiad ar sail yr angen hwnnw a dylai’r asesiad a gynhelir fod yn gymesur â’r cais a/neu’r angen amlwg. Felly, rhaid i awdurdod lleol alluogi ymarferwyr i ddarparu proses asesu sy’n adlewyrchu hyd a lled yr anghenion gofal a chymorth sydd i’w gweld, fel bod dyfnder a thrylwyredd yr asesiad a’r broses cynllunio gofal a chymorth yn briodol i anghenion yr unigolyn.

 

17.         Mae’r asesiad yn dechrau ar sail y dybiaeth mai oedolyn sydd yn y sefyllfa orau i bwyso a mesur ei lesiant ei hun, ac mae nodyn ar asesu anghenion plentyn yn dilyn isod.

 

18.         Mae asesiadau effeithiol yn brofiadau gwerthfawr ynddynt hwy eu hunain, ynghyd â bod yn gyfrwng i helpu i gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen ar unigolyn neu deulu. Dylai’r asesiad feithrin gwell dealltwriaeth o sefyllfa rhywun, pennu’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’u hamgylchiadau penodol, a phennu cynllun ar gyfer sut byddant yn sicrhau eu canlyniadau personol. Dylai’r broses asesu fod yn seiliedig ar egwyddorion cyd-gynhyrchu gan sicrhau ei bod yn cynnwys perthynas lle mae ymarferwyr ac unigolion yn rhannu’r pŵer i gynllunio a darparu cymorth gyda’i gilydd, a gan gydnabod bod pob partner yn gallu gwneud cyfraniad hollbwysig at sicrhau’r canlyniadau personol a nodwyd.

 

19.         Yn aml, bydd y broses asesu’n dechrau pan mae person yn defnyddio gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Nid dyma ddylai fod yr unig ffordd o gael mynediad at asesiad.

 

20.         Mae rhagor o fanylion am y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy ar gael yn y Cod ar Ran 2 o’r Ddeddf. O dan y gwasanaeth hwn, dim ond yr elfen gwybodaeth y gellir ei darparu heb ryw fath o asesiad. Os rhoddir cyngor a/neu gymorth, bydd anghenion y person wedi cael eu hasesu.

 

21.         Gall asesiad gael ei gynnal gan un ymarferydd lle na fyddai’r ymarferydd hwnnw angen cyngor neu asesiadau arbenigol ychwanegol er mwyn pennu cymhwysedd.

 

22.         Dylai’r ymarferydd gynnal asesiad sy’n gymesur ag anghenion ac amgylchiadau ond dylai asesiad cyflawn, yn y man lleiaf, gofnodi’r data craidd ac ystyried y bum elfen er mwyn pennu cymhwysedd.

 

23.         Rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cyfartal yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol. Gall pob unigolyn wahodd rhywun o’i ddewis i’w helpu i gymryd rhan yn llawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau. Gall ffrindiau, perthnasau neu rwydwaith cefnogi ehangach yr unigolyn roi’r cymorth hwn.

 

24.         Mae’r cod ymarfer pwrpasol ar gyfer eiriolaeth o dan Adran 10 o’r Ddeddf yn nodi’r swyddogaethau lle mae’n rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â’r unigolyn, benderfynu sut gallai eiriolaeth gynorthwyo’r broses o benderfynu ar ganlyniadau personol unigolyn a’u sicrhau; ynghyd â’r amgylchiadau pan mae’n rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol. Rhaid i weithwyr proffesiynol ac unigolion sicrhau bod penderfyniadau am yr angen am eiriolaeth yn rhan annatod o’r dyletswyddau perthnasol o dan y Cod hwn.

25.         Os yw’r asesiad yn ymwneud ag anghenion gofal a chymorth plentyn, rhaid gweld y plentyn. Mae hyn yn cynnwys arsylwi ar y plentyn a chyfathrebu â’r plentyn mewn modd sy’n gydnaws â’i oedran a’i allu. Rhaid i’r asesiad ganolbwyntio ar agweddau canolog neu agweddau pwysicaf ar anghenion y plentyn a gallu ei rieni neu’r rheini sy’n gofalu amdano i ymateb yn briodol i’r anghenion hyn o fewn y teulu a’r gymuned ehangach.

 

26.         Gall asesiad ddod i’r casgliad, ar ôl diwallu’r anghenion dybryd, fod angen asesiad mwy cynhwysfawr a gall yr asesiad pellach gael ei gynnal gan un ymarferydd gan ddefnyddio gwybodaeth bellach gan ffynonellau eraill.

 

27.         Yn aml iawn, lle mae angen asesiad mwy cynhwysfawr, efallai y bydd angen i asesiad o anghenion gofal a chymorth gynnwys compendiwm o un neu fwy o asesiadau proffesiynol a fydd yn ategu’r data sy’n ofynnol yn yr offeryn asesu a chymhwystra cenedlaethol, sy’n cael ei drafod yn fanylach yn ddiweddarach yn y Cod hwn.

 

28.         Gall pob un o’r asesiadau hyn fod o ddisgyblaeth broffesiynol arbennig a bod wedi’i gynllunio i gyd-fynd â thasg asesu benodol y ddisgyblaeth broffesiynol honno. Mae’r diagram hwn yn dangos hyn:

Elfennau Asesiad Integredig

Templed Lleol Cyffredin – rhaid iddo gynnwys, yn y man lleiaf, Set Ddata Graidd Genedlaethol (Yn ofynnol ar gyfer pob asesiad)

Asesiad Integredig

Asesiadau Arbenigol a Phroffesiynol (e.e. Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl, Arbenigwyr Camddefnyddio Sylweddau, Therapi Galwedigaethol, Nyrsio Cymunedol, Anghenion Synhwyraidd ac ati)

(Yn ofynnol yn ôl angen ac amgylchiadau)

29.         Hwyrach y bydd asesiadau mwy cynhwysfawr yn cynnwys nifer o gamau neu drafodaethau er mwyn cael dealltwriaeth lawn o anghenion y person a’r canlyniadau y dymunant eu sicrhau. Efallai hefyd y gellid holi am farn gweithwyr proffesiynol eraill lle nad yw eu cyfraniad hwy yn cyfrif fel asesiad.

 

30.         Lle bo’n ofynnol i sicrhau bod y broses asesu’n gydnaws â’r egwyddorion yn y cod ymarfer hwn, rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys rhywun â sgiliau neu wybodaeth arbenigol neu arbenigedd yn yr asesiad. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a yw am ymgynghori ag arbenigwr priodol ac yna ystyried canlyniad ymgynghoriad o’r fath wrth gynnal yr asesiad neu a ddylai’r asesiad ei hun gael ei gynnal gan rywun â sgiliau neu wybodaeth arbenigol neu arbenigedd o’r fath. Mae’r gofyniad hwn i’w weld yn rheoliad 3 (2) a (3) o’r rheoliadau asesu. Os cynhaliwyd asesiad arbenigol, barn yr arbenigwr sy’n cael blaenoriaeth mewn achosion lle nad yw’r arbenigwr a’r ymarferydd cyffredinol yn cytuno.

 

31.         Pan mae angen, neu pan mae cais am asesiad o anghenion rhywun dall-byddar, rhaid i’r asesiad gael ei gynnal gan unigolyn/tîm sydd wedi cael hyfforddiant penodol ac sydd â’r gallu i asesu anghenion rhywun dall-byddar – yn enwedig i asesu’r angen am gyswllt personol a rhyngweithio cymdeithasol; technoleg gynorthwyol; cymorth gyda symudedd; cyfathrebu; llesiant emosiynol; sefydlu/adsefydlu; dysgu sgiliau bywyd ac anghenion y dyfodol.

 

32.         Ni ddylai’r angen i gynnal asesiad mwy arbenigol atal neu ohirio gwasanaethau priodol rhag cael eu darparu.

 

33.         Os oes angen asesiad mwy arbenigol, bydd yr anghenion yn rhai mwy cymhleth eu natur yn ôl pob tebyg. O ganlyniad, rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod yr asesiad arbenigol yn cael ei gynnal cyn gynted â phosibl er mwyn gallu llunio cynllun gofal a chymorth yn gyflym a dylai ystyried a yw’n briodol rhoi cymorth dros dro ar waith yn y cyfamser.

 

34.         Mae ymateb prydlon i anghenion plentyn yn hollbwysig; ni ddylai cwblhau asesiad cynhwysfawr o fewn 42 diwrnod gwaith o gael atgyfeiriad (gofyniad a nodir isod o dan yr ystyriaethau ychwanegol ar gyfer plant) gael blaenoriaeth ar draul dadansoddiad o’r hyn sy’n digwydd ym mywyd y plentyn a pha gamau sydd angen eu cymryd ar unwaith, waeth pa mor anodd neu gymhleth yw amgylchiadau’r plentyn.

 

35.         Rhaid i’r broses asesu gydnabod realiti anghenion a gallu sy’n newid drwy’r amser ac ymateb i newid mewn amgylchiadau. Yn ymarferol, er mwyn cydnabod anghenion sy’n newid, mae’n bosibl y bydd rhaid ystyried amgylchiadau’r unigolyn dros hyn a hyn o amser nes bod modd cael darlun cywir o lefel yr angen. Rhaid i hyn beidio â gohirio’r cymorth.

 

36.         Dylid rhoi gwybod i’r unigolyn, a phawb cysylltiedig, am hynt yr asesiad a phryd y mae disgwyl i’r broses asesu ddod i ben.

 

Cyfuno asesiadau o anghenion ac asesiadau eraill

37.         Caiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion person gydag asesiad o anghenion ei ofalwr os yw o’r farn y byddai hynny’n fanteisiol. Fodd bynnag, ni chaiff yr awdurdod lleol ond gwneud hynny os rhoddir caniatâd dilys gan y bobl hynny neu mewn perthynas â hwy. Mae’r Nodiadau Esboniadol ar gyfer adran 28 o’r Ddeddf yn rhoi rhagor o fanylion am ystyr caniatâd dilys a’r amgylchiadau lle ceir diystyru’r gofyniad am ganiatâd dilys.

 

38.         Er mwyn osgoi dyblygu gwaith drwy gynnal asesiadau o dan ddeddfwriaethau gwahanol ar wahân, caiff awdurdod lleol gynnal asesiad o anghenion o dan y Ddeddf ar yr un pryd â chynnal asesiad o dan Ddeddfau eraill neu ar yr un pryd ag y mae corff arall yn cynnal asesiad o dan Ddeddfau eraill. Mewn achosion o’r fath, caiff yr awdurdod lleol gynnal yr asesiad ar ran y corff arall neu ar y cyd ag ef. Mewn achosion lle mae’r corff arall wedi trefnu i’r asesiad arall gael ei gynnal ar y cyd â pherson arall, caiff yr awdurdod lleol gynnal yr asesiad arall ar y cyd â’r corff arall a’r person arall hwnnw.

 

Hygyrchedd

39.         Rhaid esbonio’n glir sut mae’r awdurdod lleol yn mynd ati i asesu a phenderfynu ar gymhwystra fel bod pawb yn deall sut mae cael asesiad, beth mae asesiad yn ei gynnwys, sut bydd yn cael ei gynnal, pwy fydd yn rhan o’r broses a beth mae’n ei olygu iddynt. Ar rai achlysuron, oherwydd eu hanghenion penodol, bydd pobl angen cymorth ychwanegol i sicrhau eu bod yn deall beth sydd ar gael iddynt a sut mae manteisio ar gymorth.

 

40.         Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod pobl ddall-byddar yn gallu cael gweithwyr cymorth un-i-un sydd wedi cael hyfforddiant penodol, lle bo angen.

 

 

Ymarferydd Arweiniol

41.         Rhaid enwi ymarferydd arweiniol dynodedig, a’r unigolyn hwn fydd yn arwain y broses asesu. Bydd yr ymarferydd hwn yn gyfrifol am gysylltu â phob ymarferydd arall sydd ynghlwm wrth asesu’r unigolyn a/neu deulu. Bydd yn galw ar arbenigwyr ychwanegol yn ôl y gofyn; bod yn ganolbwynt cyfathrebu ar gyfer gwahanol weithwyr proffesiynol ac ar gyfer yr unigolyn neu’r teulu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chofnodi’n gywir a bod yr unigolyn yn gallu cael y set ddata graidd (gweler isod); a sicrhau bod unrhyw broblemau neu anawsterau wrth gydlynu neu gwblhau asesiad yn cael eu datrys.

 

42.         Gall cydlynydd yr asesiad fod yr un fath â’r cydlynydd gofal a enwir y cyfeirir ato yn y cod ymarfer ar gyfer Rhan 4 o’r Ddeddf. Os yw’r cydlynwyr yn wahanol, dylai’r ddau gydweithio wrth gynllunio, darparu ac adolygu gofal a chymorth.

 

 

Pwy ddylai fod ynghlwm wrth y broses?

43.         Yn ogystal â’r gofynion hynny a nodir yn yr adran ar y Ddyletswydd i Asesu (uchod) a chyda cydsyniad yr unigolyn dan sylw[1]  dylai’r awdurdod gynnwys, lle bo’n briodol, y bobl ganlynol yn yr asesiad:

 

·         unrhyw un y mae’r unigolyn (neu riant yn achos plentyn) yn gofyn i’r awdurdod lleol ei gynnwys;

·         ymarferwyr/gweithwyr proffesiynol eraill sydd wedi neu sydd angen cynnal asesiad cysylltiedig;

·         ymarferwyr/gweithwyr proffesiynol eraill sy’n arbenigo yn amgylchiadau neu anghenion yr unigolyn dan sylw;

·         yn achos oedolyn sydd heb y gallu i benderfynu pwy i’w gynnwys, unrhyw un sydd wedi’i awdurdodi i wneud penderfyniadau am yr unigolyn o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005; neu

·         unrhyw un arall, yn cynnwys gofalwyr, y mae’r awdurdod lleol o’r farn sy’n ymwneud digon â’r trefniadau gofal neu gymorth ar gyfer yr unigolyn.

 

Gofynion Asesu

 

44.         Rhaid i bob ymarferwr sy’n cynnal asesiadau fod â’r sgiliau, yr hyfforddiant a’r cymwysterau addas i gynnal asesiadau. Nodir y gofyniad hwn yn rheoliad 3 o’r rheoliadau. Mae cymwysterau priodol ar gyfer cynnal y gweithgareddau hyn yn cynnwys:

·         naill ai ymarferydd gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol cofrestredig sydd â chymhwyster proffesiynol lefel 5 neu uwch

·         neu rywun sydd â chymhwyster gofal cymdeithasol lefel 4 neu uwch, sy’n cynnwys gwybodaeth a sgiliau ar gyfer cynnal asesiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, o dan oruchwyliaeth ymarferydd gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol cofrestredig

 

45.         Bydd angen i awdurdod lleol fod yn fodlon hefyd fod gan yr holl aelodau staff sy’n cynnal y gweithgareddau hyn y sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd i weithio gyda phlant a phobl ifanc, oedolion a gofalwyr, fel sy’n briodol.

 

46.         Dylai awdurdodau lleol weithio gyda’u byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG partner i gytuno ar drefniadau ledled ardal y bwrdd iechyd lleol ar gyfer dirprwyo ymarferwyr i gynnal asesiadau gofal a chymorth.

 

47.         Rhaid i awdurdodau lleol dalu sylw dyledus i Gonfensiynau ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig a restrir isod wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas ag unigolyn. Caiff canllawiau ar y gofynion i roi sylw dyledus eu disgrifio yn y cod ymarfer ar gyfer Rhan 2 o’r Ddeddf.

·         Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn

·         Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

·         Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl

 

48.         Rhaid i wybodaeth sy’n ymwneud â’r unigolyn fod yn gywir ac yn gyson, a chael ei rhannu’n ddiogel ac yn briodol.

 

49.         Gofynnir i’r unigolyn, gofalwr a/neu’r sawl â chyfrifoldeb rhiant roi caniatâd i wybodaeth sy’n cael ei chasglu at ddibenion yr asesiad gael ei rhannu rhwng ymarferwyr perthnasol, a bod y rhesymau am hyn yn cael eu hesbonio’n glir iddynt.

 

50.         Rhaid i’r broses fod wedi’i chydlynu’n dda a bod yn gymesur ag angen yr unigolyn.

 

51.         Oni bai bod rheswm wedi’i gytuno (gyda’r unigolyn neu’r teulu) i’r unigolyn beidio â bod yn bresennol, rhaid i unigolyn fod yn bresennol yn ei asesiad ei hun bob amser. Dylid pwyso a mesur yn ofalus pa mor briodol yw hi i blentyn fod yn bresennol mewn asesiad, yn enwedig plant iau. Mae canllawiau pellach ar asesu plant yn Atodiad 2.

 

52.         Yr unigolyn ddylai ddewis a ddylai perthynas neu ffrind neu ofalwyr neu eiriolwr fod yn bresennol mewn asesiad neu gael eu hymgynghori fel rhan o’r broses asesu.

 

Gofynion Cymraeg

52.         Rhaid i’r broses asesu gydnabod y cysyniad o anghenion iaith a dylai ymarferwyr sicrhau bod yr egwyddor cynnig gweithredol yn rhan annatod o ymarfer. Mae hyn yn golygu y dylai awdurdod lleol fod yn rhagweithiol a dylid holi’r unigolyn pa iaith fyddai’n well ganddo ei defnyddio ar ddechrau’r broses. Bydd hyn yn sicrhau ei fod yn gallu cael gwasanaethau yn ei iaith ei hun gydol y broses o bennu a diwallu anghenion gofal a chymorth. Mae iaith yn elfen annatod o’r gofal mae pobl yn ei gael, a chyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw darparu gwasanaethau priodol sy’n cynnwys diwallu anghenion ieithyddol defnyddwyr. Dim ond o wneud hyn y gallan nhw ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Felly dylid cynnal asesiadau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg fel sy’n briodol i’r unigolyn neu’r teulu dan sylw. Ni ddylai gofyn am gael asesiad cyfrwng Cymraeg ohirio’r broses.

 

Egwyddorion Cyffredin ar gyfer Asesu

 

53.         Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod yr holl drefniadau asesu lleol ac arbenigol yn cydymffurfio â’r gofynion hollgyffredinol yn adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf (gweler y Cod ar gyfer Rhan 2) a rhaid iddo ystyried yr egwyddorion canlynol hefyd:

·         cyn cynnal unrhyw asesiad, mae ymarferwyr yn ystyried a fyddai cael gofalwr, aelod o’r teulu, ffrind neu eiriolwr yn bresennol o fudd i’r unigolyn y byddant yn asesu ei anghenion.

·         bod yr asesiad yn amserol ac yn ymateb i ba mor ddybryd yw anghenion yr unigolyn.

·         darparu gwybodaeth am gael cymorth eiriolwr lle mae angen er mwyn galluogi’r unigolyn i fod yn bartner cyfartal yn y broses.

·         bod cyfraniad gofalwyr di-dâl, rhieni, partneriaid ac aelodau eraill o’r teulu at ofal a chymorth unigolyn yn cael ei gydnabod, a bod y bobl hyn yn cael eu cefnogi a’u cofnodi’n briodol.

·         er bod teuluoedd, gofalwyr a phobl sy’n derbyn gofal am gael eu hanghenion wedi’u hasesu gyda’i gilydd, mae’n bosibl y byddai’n well cynnal rhywfaint o’r asesiad o’u hanghenion ar wahân a bod unrhyw benderfyniadau sy’n mynd yn groes i ddymuniadau pobl yn hyn o beth yn cael eu gwneud ar sail y rheswm diamwys o weithredu er lles gorau’r unigolyn y mae ei anghenion yn cael eu hasesu, a bod y rheswm hwn yn cael ei gofnodi.

·         rhaid i’r broses asesu gael ei llunio ar sail anghenion yr oedolyn neu’r plentyn y mae ei anghenion yn cael eu hasesu; mae hyn yn cynnwys yr amgylchedd lle cynhelir yr asesiad, y dogfennau a ddefnyddir a’r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir.

·         rhaid i ymarferwyr fod yn ymwybodol o unrhyw risg neu niwed i’r unigolyn neu i eraill – yn cynnwys eraill yn eu gofal. Bydd asesu a chynllunio gofal a chymorth yn edrych ar ymatebion posibl i’r risgiau hynny ac yn cytuno dulliau o reoli a/neu leihau risg.

·         yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005, mae asesiad yn ystyried gallu unigolyn i gymryd rhan yn yr asesiad ac yn gwneud y trefniadau angenrheidiol i sicrhau bod ei anghenion a’i ddymuniadau’n cael eu deall a’u hystyried os nad oes ganddo’r gallu priodol.

·         dylai'r broses asesu fod yn hygyrch i bawb, gyda’r dogfennau i gyd mewn fformat hawdd ei ddeall neu fformat arall a gyda chymorth cyfathrebu fel sy’n briodol i anghenion yr unigolyn y mae ei anghenion yn cael eu hasesu.

·         dylid pwyso a mesur y math a’r graddau o arbenigedd sydd ei angen i asesu rhywun dall-byddar fesul achos yn ôl pa mor wael yw cyflwr yr unigolyn a’i anghenion cyfathrebu. Dylai aseswyr arbenigol ar gyfer pobl ddall-byddar fod wedi’u hyfforddi ar y cyflwr hyd at o leiaf lefel 3 RhCA neu FfCCh neu’n uwch lle mae gan yr unigolyn anghenion uwch neu fwy cymhleth. Dylai arbenigwr sy’n rhan o asesiad gyfrannu at gynllunio gofal a chymorth o dan Ran 4 o’r Ddeddf hefyd.

 

Offeryn Asesu a Chymhwystra Cenedlaethol:

54.         Rhaid i asesiadau, yn y man lleiaf, gofnodi’r asesiad yn unol â’r offeryn asesu a chymhwystra cenedlaethol. Mae’r offeryn yn fframwaith ar gyfer asesu a chymhwystra fel y nodir isod. Mae hyn yn gosod sylfeini’r offeryn ond gellid ei ehangu dros amser i gynnwys templedi a chanllawiau pellach ar gyfer ymarferwyr dros amser.

 

55.         Mae’r offeryn asesu a chymhwystra cenedlaethol yn cynnwys:

 

·         y set ddata graidd sylfaenol genedlaethol;

·         dadansoddiad wedi’i strwythuro o gwmpas 5 elfen yr asesiad; yn cynnwys datgan y canlyniadau sydd wedi’u pennu (fel sy’n ofynnol gan Reoliad 4 o’r rheoliadau asesu);

·         y camau i’w cymryd gan yr awdurdod lleol a phobl eraill i helpu’r unigolyn i sicrhau’r canlyniadau hynny (yn cynnwys camau i’w cymryd gan yr unigolyn y mae ei anghenion yn cael eu hasesu a/neu ei ofalwr);

·         datganiad am sut mae’r ymarferydd yn asesu y bydd y cam gweithredu a nodir yn helpu i sicrhau’r canlyniad personol neu ddiwallu’r anghenion ddaeth i’r fei yn yr asesiad. Mae hyn yn berthnasol i’r anghenion hynny fydd yn cael eu diwallu trwy ddarparu gofal a chymorth a’r rheini sy’n cael eu diwallu drwy wasanaethau cymunedol neu ataliol, darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy, neu drwy ryw fodd arall.

 

Set Ddata Graidd Sylfaenol Genedlaethol

56.         Mae gan bwy bynnag sy’n dod i gysylltiad ag oedolyn, plentyn neu aelod o’r teulu gyntaf rôl hollbwysig o ran dylanwadu ar hynt gwaith y dyfodol. Mae ansawdd y cysylltiad cynnar neu gychwynnol yn effeithio ar y berthynas waith ag ymarferwyr eraill maes o law. Mae cofnodi gwybodaeth am y cysylltiad neu atgyfeiriad cyntaf yn cyfrannu at gamau diweddarach yr asesiad. Mae’n hanfodol, felly, fod pob ymarferydd sy’n ymateb i unigolion, deuluoedd neu atgyfeirwyr yn gyfarwydd â’r egwyddorion wrth wraidd asesu angen ac yn ymwybodol o bwysigrwydd y wybodaeth sy’n cael ei chasglu a’i chofnodi ar yr adeg hon.

 

57.         Er mwyn hybu arferion cyson ledled Cymru lluniwyd set ddata graidd sylfaenol genedlaethol (isod) i sicrhau bod unigolyn yn gallu dibynnu ar eu hasiantaethau lleol i gasglu llinell sylfaen gyffredin o wybodaeth ym mhob asesiad o Fôn i Fynwy. Mae hyn yn golygu nad oes raid i unigolion ailadrodd yr un manylion drosodd a throsodd, a bod ymarferwyr mewn ardaloedd lleol yn gallu rhannu set ddata gyffredin fel sail i wasanaethau sydd wedi’u cydlynu’n dda.

 

58.         Rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG i sicrhau bod templedi lleol, rhanbarthol ac arbenigol yn bodloni’r set ddata graidd sylfaenol a’u bod yn cael eu defnyddio gan bob partner yn ardal y bwrdd iechyd lleol fel rhan o unrhyw asesiad sy’n arwain at ddarparu cyngor, cymorth, neu gynllun gofal a chymorth. Dylai’r set ddata graidd alluogi ymarferwyr i nodi a chyfeirio’n gyflym at asesiadau iechyd, gofal a chymorth, a llesiant eraill sydd wedi’u rhoi i’r unigolyn a/neu’r teulu.

 

59.         Dim ond pan fernir fod anghenion unigolyn yn gymwys a bod angen cynllun gofal a chymorth, neu gynllun cymorth yn achos gofalwr, y bydd gofyn cwblhau’r set ddata graidd yn ei chyfanrwydd.

 

Y Set Ddata Graidd

 

Rhif GIG

Teitl

Cyfenw

Enw(au) cyntaf

Enw a ffafrir

Cyfeiriad a chod post

Dyddiad geni

Ffôn

Cyfeiriad e-bost

Rhyw

Enw a chyfeiriad meddyg teulu

Enw a chyfeiriad ysgol

Galwedigaeth

Pa asesiadau eraill sydd wedi’u cynnal gan asiantaethau eraill?

 

 

Dewis o ran Iaith / Dull cyfathrebu / Gofynion hygyrchedd

Enw(au) gofalwr(wyr) / Pobl â chyfrifoldeb rhiant

Perthynas

Manylion cyswllt gofalwr(wyr) / Pobl â chyfrifoldeb rhiant

A yw’r plentyn hwn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant?

Manylion cyswllt Cydgysylltydd Asesiadau Arweiniol.

Manylion cyswllt Cydgysylltydd Gofal Arweiniol

Gwybodaeth wedi’i chymryd gan (enw)

Swydd

Sefydliad

Dyddiad

 

60.         Rhaid i awdurdodau lleol roi protocolau a systemau ar waith o sicrhau bod y set ddata graidd sylfaenol genedlaethol ar gyfer unigolyn yn cael ei diweddaru a’i chynnal fel y gellir cyfeirio ati maes o law gan/gydag ymarferwyr eraill yn ogystal ag ar gyfer cael data rheoli perfformiad.

 

Y 5 Elfen Allweddol

61.         Mae’r broses asesu’n ei gwneud hi’n ofynnol i ymarferwyr siarad â phobl er mwyn gweld beth sy’n bwysig iddynt a’r canlyniadau personol maent yn dymuno eu sicrhau (ac yn achos plant, y canlyniadau y mae pobl â chyfrifoldeb rhiant yn dymuno eu sicrhau ar gyfer y plentyn, os yw’n briodol), a pha gyfraniad all yr unigolyn a’i deulu ei wneud at sicrhau’r canlyniadau hynny. Gall hyn gynnwys y ffrindiau, y perthnasau neu’r gweithwyr proffesiynol sy’n eirioli ar ran yr unigolyn.

 

62.         Bydd y canlyniadau personol hyn yn adlewyrchu canlyniadau llesiant cenedlaethol, a ddiffinnir yn y cod ar gyfer Rhan 2 ac yn y diffiniad o lesiant yn adran 2 o’r Ddeddf.

 

63.         Mae’r Ddeddf a’i rheoliadau cysylltiedig yn cyflwyno meini prawf asesu a chymhwystra ar sail dadansoddiad cynhwysfawr o 5 elfen rhyng-gysylltiedig i sicrhau bod awdurdod lleol yn ystyried amgylchiadau rhywun yn eu cyfanrwydd. Mae hyn yn golygu bod rhaid i awdurdod lleol:

 

·         asesu a rhoi sylw i amgylchiadau’r unigolyn;

·         rhoi sylw i’w ganlyniadau personol;

·         asesu a rhoi sylw i unrhyw rwystrau i sicrhau’r canlyniadau hynny;

·         asesu a rhoi sylw i unrhyw risgiau i’r unigolyn neu i unrhyw un arall os na chaiff y canlyniadau hynny eu sicrhau; ac

·         asesu a rhoi sylw i gryfderau a galluoedd yr unigolyn.

 

Ceir canllawiau ar y 5 elfen hyn yn Atodiad 1: Esboniadau o 5 Elfen Asesiad.

 

64.         Yr asesiad fydd ffrwyth y sgwrs rhwng yr unigolyn neu’r teulu a’r ymarferydd sydd â’r nod o weld sut mae diwallu anghenion gofal a chymorth. Rhaid i’r broses asesu ganolbwyntio ar ddeall canlyniadau personol pob unigolyn, nodi risgiau i'r unigolyn ac eraill, edrych ar rwystrau i sicrhau ei ganlyniadau, a’i gryfderau a’i alluoedd. Trwy hyn, rhaid i’r asesiad nodi pa atebion sydd eu hangen arno a sut byddant yn cael eu darparu. Rhaid i hyn fod yn waith partneriaeth rhwng yr unigolyn neu’r teulu a’r ymarferydd, gyda’r naill a’r llall yn deall y canlyniad. Dylid cynnwys unrhyw arbenigwr sy’n ymwneud â’r asesiad yn y gwaith cynllunio gofal a chymorth hefyd.

 

65.         Rhaid rhoi sylw i bob un o’r bum elfen uchod yn yr asesiad, ac wedi gwneud hynny, rhaid penderfynu a yw pob un o’r anghenion yn un y mae’n rhaid ei ddiwallu drwy ddarparu gofal a chymorth, angen sy’n angen cymwys.

 

Ystyriaethau Ychwanegol wrth Asesu Anghenion Oedolion

66.         Dylai asesiad ddechrau gyda’r rhagdybiaeth mai’r oedolyn sydd yn y sefyllfa orau i farnu llesiant yr oedolyn.

 

67.         Dylai asesiad hyrwyddo annibyniaeth yr oedolyn pan fo’n bosibl.

 

Ystyriaethau Ychwanegol wrth Asesu Anghenion Plant

68.         Rhaid i fan cychwyn unrhyw asesiad adlewyrchu’r ddyletswydd o dan adran 6(4)(a) yn rhan 2 o’r Ddeddf sy’n nodi bod yn rhaid i unrhyw un sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn roi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn.

 

69.         Asesiad yw cam cyntaf helpu plentyn a’i deulu a rhaid iddo ganolbwyntio ar y teulu a’r plentyn.

 

70.         Dylid cynorthwyo teuluoedd i ofalu am eu plant fel rhan o ddull aml-asiantaeth cydgysylltiedig o fynd i’r afael ag anghenion sylfaenol. Mae’n bwysig canfod yn gynnar pa anghenion sydd gan y teulu a rhoi cymorth priodol a/neu wneud atgyfeiriadau priodol.

 

71.         Mae dulliau aml-asiantaeth fel y model Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) yn sicrhau bod ystod eang o gymorth yn gallu cael ei ddarparu mewn ffyrdd sy’n gweddu i amgylchiadau ac anghenion y teulu, nid dim ond rhai’r plentyn. Dylai timau aml-asiantaeth gydgysylltu, targedu a theilwra darpariaeth i ddiwallu angen. Mae manteision dull wedi’i deilwra yn cynnwys y mathau cywir o gymorth yn cael eu targedu at y problemau lle maent yn debygol o gael yr effaith fwyaf ac, yn y pen draw, cadw teuluoedd gyda’i gilydd.

 

72.         Dylai’r broses asesu hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn. Nid yw gweithio gydag aelodau’r teulu yn nod ynddo’i hun; rhaid mai’r amcan yn ddieithriad yw diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn. Ni fydd datblygu perthynas waith gyda phlant ac aelodau’r teulu yn hawdd bob tro a gall fod yn anodd yn enwedig lle bu pryderon am niwed sylweddol i’r plentyn. Waeth pa mor gyndyn yw’r teulu neu waeth pa mor anodd yw’r amgylchiadau, mae’n bwysig parhau i geisio canfod ffyrdd o gynnwys y teulu yn y broses asesu.

 

73.         Lle nad yw hyn yn bosibl, mae ystyriaethau penodol yn berthnasol wrth asesu anghenion plentyn. Rhaid i’r asesiad ystyried anghenion datblygiadol y plentyn, ac unrhyw amgylchiadau eraill sy’n effeithio ar lesiant y plentyn. Gallai hyn gynnwys amgylchiadau lle mae asesiad wedi dangos bod angen gofal a chymorth ar y rhieni. Yn ogystal â chanolbwyntio ar y canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno eu sicrhau mewn bywyd o ddydd i ddydd, rhaid i’r asesiad geisio ganfod hefyd y canlyniadau y mae’r rheini â chyfrifoldeb rhieni yn dymuno eu sicrhau. Rhaid bod asesiad o’r graddau y gallai darparu gofal a chymorth, gwasanaethau ataliol, neu ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, gyfrannu at y canlyniadau hynny.

 

74.         Wrth ganfod anghenion gofal a chymorth plentyn a sut dylid diwallu’r anghenion hynny, mae’n elfennol bod y dull yn canolbwyntio ar y plentyn. Mae hyn yn golygu bod rhaid gweld y plentyn a chanolbwyntio ar ei lesiant gydol yr asesiad. Rhaid ystyried safbwynt y plentyn bob amser. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gweld ac arsylwi’r plentyn gydol unrhyw asesiad. Mae gwaith uniongyrchol gyda phlant yn ystod asesiad yn bwysig, yn cynnwys datblygu sawl dull gwahanol i’w defnyddio gyda phlant o oedran, rhyw a diwylliant gwahanol i ganfod eu dymuniadau a’u teimladau, a deall ystyr eu profiadau iddynt. Rhaid sicrhau diogelwch y plentyn gydol y broses asesu.

 

75.         Wrth asesu plentyn iau na 16 oed, dylai’r asesiad ganfod a rhoi sylw i farn, dymuniadau a theimladau'r bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i’r graddau y mae hyn yn rhesymol ymarferol ac yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn.

 

76.         Nod y broses asesu yw sicrhau bod lles a llesiant gorau’r plentyn yn cael eu bodloni a bod plant yn cael eu diogelu fel eu bod yn cyrraedd neu’n cynnal lefel foddhaol o iechyd a datblygiad, neu na fydd unrhyw niwed arwyddocaol i’w hiechyd a datblygiad. Y ddyletswydd ganolog yw diogelu plant a phobl ifanc ac i hyrwyddo’u llesiant.

 

77.         Mae egwyddorion pwysig wrth wraidd y dull o asesu plant a’u teuluoedd. Rhaid i asesiad:

 

·         ganolbwyntio ar y plentyn;

·         bod â’i wreiddiau yn natblygiad plant;

·         defnyddio dull cyfannol;

·         sicrhau cyfle cyfartal;

·         cynnwys gweithio gyda phlant a’u teuluoedd;

·         adeiladu ar gryfderau a chanfod anawsterau;

·         cynnwys dull rhyngasiantaethol o asesu a darparu gwasanaethau;

·         bod yn broses barhaus, nid un digwyddiad;

·         cael ei gynnal ochr yn ochr â chamau a gwasanaethau eraill;

·         bod â gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth yn sail iddo.

 

Er mwyn ategu’r broses asesu ar gyfer plant dylai ymarferwyr gasglu tystiolaeth yn unol â’r tri maes ar gyfer asesu plant. Dylai’r meysydd ymchwilio hyn gael eu dadansoddi yn erbyn 5 elfen yr asesiad i lywio, lle bo angen, y gwaith o ddatblygu cynllun gofal a chymorth. Mae rhagor o wybodaeth am yr egwyddorion sy’n sail i’r asesiad a thri maes yr asesiad wedi’i chynnwys yn Atodiad 2.

 

78.         Mae ymateb awdurdod lleol i gysylltiad cychwynnol neu atgyfeiriad yn gofyn am gymorth yn hynod bwysig. Mae’n bwysig, hefyd, bod gan bob awdurdod lleol strwythurau a systemau ar waith i sicrhau ymateb effeithiol, hygyrch a chyflym i blant a theuluoedd. Mae ymateb amserol er mwyn diwallu anghenion plentyn yn golygu na all y broses asesu barhau’n ddirwystr dros gyfnod hir heb ddadansoddi beth sy’n digwydd a pha gamau sydd eu hangen, waeth pa mor anodd neu gymhleth yw amgylchiadau’r plentyn. Yr amserlen ar gyfer cwblhau asesiad yw uchafswm o 42 diwrnod gwaith o’r pwynt atgyfeirio.

 

79.         Os gwrthodwyd y cyfle i gael asesiad, rhaid diystyru’r gwrthodiad hwnnw lle byddai’n anghyson â llesiant y plentyn.

 

Ystyriaethau Ychwanegol wrth Asesu Anghenion sy’n Cael eu Diwallu gan Ofalwyr

80.         Rhaid i’r awdurdod lleol nodi’r holl anghenion a gyflwynir yn cynnwys y rhai a fyddai’n cyfrif fel anghenion cymwys pe na bai gofalwr yn diwallu’r anghenion hynny. Mae hyn fel bod yr awdurdod lleol yn gallu ymateb yn briodol ac yn gyflym os yw’r gofalwr neu deulu’r plentyn yn methu neu’n amharod i ddiwallu rhai neu bob un o’r anghenion gofal a chymorth a nodwyd.

 

81.         Rhaid i’r broses asesu fod yn gymesur â’r angen a gyflwynir a rhaid iddi ystyried yr anghenion gofal a chymorth a gyflwynir yn llawn waeth pa gymorth sy’n cael ei ddarparu gan y gofalwr neu deulu’r plentyn.

 

82.         Bydd y pwynt pan mae gofalwr yn methu neu’n amharod i barhau i ddiwallu angen am ofal, neu’n rhoi gwybod i’r awdurdod lleol fod hyn ar fin digwydd, yn cyfrif fel newid sylweddol mewn amgylchiadau ar gyfer yr unigolyn sy’n cael gofal. O ganlyniad, rhaid i’r awdurdod lleol gynnal ailasesiad o anghenion yr unigolyn am ofal a chymorth (gweler Rheoliad 6 o’r rheoliadau asesu).

 

83.         Os yw gofalwr yn methu diwallu angen am ofal a chymorth yn sydyn, rhaid i’r gofyniad i ail-asesu beidio ag atal neu ohirio’r awdurdod lleol rhag cymryd camau brys ar unwaith i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr oedolyn neu’r plentyn. Dylai camau o’r fath gael eu llywio gan yr asesiad a gynhaliwyd ddiweddaraf.

 

84.         Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i unrhyw un gael asesiad os yw’n ymddangos bod angen am ofal a chymorth – hyd yn oed os yw gofalwr yn darparu’r gofal a’r cymorth hwnnw.

 

Diogelu ac Amddiffyn

85.         Rhaid mai rhan allweddol o’r asesiad yw canfod a oes sail resymol dros gredu bod oedolyn neu blentyn yn wynebu risg.

 

86.         Pan mae’r asesiad yn canfod bod oedolyn neu blentyn yn wynebu risg, rhaid i’r awdurdod lleol weithredu ar unwaith ac yn ddi-oed. Mae dyletswyddau awdurdodau lleol i ddiogelu oedolion a phlant wedi’u nodi’n fanylach yn y canllawiau statudol o dan Ran 7 o’r Ddeddf.

 

Oedolion

87.         Yn ôl diffiniad y Ddeddf, oedolyn sy’n wynebu risg yw un sy’n cael, neu’n sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, y mae ganddo anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), ac nad yw’n gallu, o ganlyniad i’r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.

 

88.         Os yw’r asesiad yn rhoi sail resymol dros gredu bod oedolyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso ac nad yw eisoes wedi gwneud hynny, rhaid i’r awdurdod lleol wneud pa bynnag ymholiadau y mae’n credu sy’n angenrheidiol i’w alluogi i benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau ac, os felly, pa gamau a chan bwy, i amddiffyn yr oedolyn hwnnw.

 

 

Plant

89.          Yn ôl diffiniad y Ddeddf, plentyn sy’n wynebu risg yw un sy’n cael, neu’n sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed; ac sydd ag anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio).

 

90.          Efallai y bydd angen i gyflymder a chwmpas yr asesiad newid i gydnabod y risgiau ychwanegol y mae’r plentyn yn eu hwynebu.

91.         Os yw’r asesiad yn rhoi sail resymol dros gredu bod plentyn yn wynebu risg ac nad yw eisoes wedi gwneud hynny, rhaid i’r awdurdod lleol ymchwilio i a gwneud ymholiadau ynghylch amgylchiadau’r plentyn hwnnw. Lle mae’r ymholiadau hyn yn dangos bod angen, rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu pa gamau, os o gwbl, y gall fod angen iddo eu cymryd i ddiogelu a hyrwyddo lles y plentyn. Bydd yr ymchwiliad yn asesiad manwl o natur anghenion y plentyn a gallu ei rieni i ddiwallu’r anghenion hynny yng nghyd-destun y teulu a’r gymuned ehangach. Nodir y ddyletswydd hon yn adran 47 o Ddeddf Plant 1989.

 

Adolygu Asesiadau

92.         Mae’r ddyletswydd i gynnal asesiad o anghenion pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol fod rhywun ag anghenion am ofal a chymorth yn egwyddor a ddylai gael ei hymestyn i adolygiadau o asesiad. Pan nad yw’r asesiad blaenorol wedi mynd i’r afael yn llawn ag anghenion gofal a chymorth yr unigolyn, neu pan fo anghenion newydd oherwydd newid mewn amgylchiadau, rhaid cynnal adolygiad o asesiad. Pan nad yw hyn yn wir, nid oes dyletswydd i adolygu.

 

93.         Nid yw hyn yr un fath ag adolygu’r cynllun gofal a chymorth, sef proses lle mae’r ymarferwyr a’r unigolyn a/neu’r teulu yn ystyried pa mor effeithiol fu’r cynllun gofal a chymorth o ran helpu’r unigolyn i sicrhau ei ganlyniadau. Mae gofynion yn ymwneud ag adolygu cynlluniau gofal a chymorth wedi’u cynnwys yn y Cod Ymarfer mewn perthynas â Phennu Cymhwystra a Chynllunio Gofal a Chymorth o dan Ran 4 o’r Ddeddf.

 

94.         Rhaid i awdurdod lleol adolygu asesiadau lle mae’r canlyniadau personol a nodwyd wedi newid, neu lle bu newid sylweddol yn anghenion neu amgylchiadau’r unigolyn neu’r teulu. Dylid penderfynu a yw’r newid yn un sylweddol drwy gyfeirio at 5 elfen yr asesiad. Gall hyn gynnwys rhwystr newydd, risg newydd neu golli adnodd.

 

95.         Mae’r newid o blentyn i oedolyn yn cyfrif fel newid sylweddol mewn amgylchiadau ac felly’n creu hawl i ailasesiad o anghenion.

 

96.         Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r asesiad pan fo’r newid yn anghenion neu amgylchiadau’r unigolyn neu’r teulu yn golygu bod angen ystyried 5 elfen yr asesiad o’r newydd. Mae’r adolygiad hwnnw’n debygol o gynnwys ailasesiad sy’n gorfod ailbennu a yw darparu gofal a chymorth, gwasanaethau ataliol, a/neu wybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn gallu cyfrannu at sicrhau canlyniadau newydd yr unigolyn neu ddiwallu’r anghenion a nodwyd, ac i ba raddau. Mae pwysigrwydd teulu a ffrindiau o ran cynorthwyo’r unigolyn i ymgysylltu a chymryd rhan lawn yn y broses ail-asesu yn gwbl hanfodol.

 

97.         Pan fo canlyniadau personol wedi newid, neu anghenion neu amgylchiadau’r unigolyn neu’r teulu wedi newid, rhaid i awdurdod lleol gydsynio â cheisiadau i adolygu asesiadau pan fo’r cais hwn wedi’i wneud gan yr unigolyn ei hun, gan bobl â chyfrifoldeb rhiant am blentyn, gan bobl â hawliau cyfreithiol i weithredu ar ran yr unigolyn, a chan rywun y mae’r unigolyn wedi’i enwi fel ei eiriolwr ar gyfer y broses asesu.

 

98.         Mae gan yr unigolyn yr hawl i ofyn am ail-asesiad o’i anghenion unrhyw bryd. Rhaid i’r awdurdod lleol ddatblygu, cyhoeddi ac esbonio’n glir broses ffurfiol ar gyfer gwneud y cais hwn.

 

99.         Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a ddylai’r ail-asesiad gael ei gynnal gan ymarferydd gwahanol i’r un a gynhaliodd yr asesiad gwreiddiol. Bydd hyn yn arbennig o berthnasol lle mae unigolyn wedi gofyn am ail-asesiad oherwydd nad yw’n fodlon â chanlyniad yr asesiad gwreiddiol. Os gwnaeth arbenigwr gymryd rhan yn asesiad gwreiddiol yr unigolyn, dylai’r awdurdod lleol ystyried a ddylid cynnwys yr arbenigwr yn yr ail-asesiad.

 

100.      Rhaid gweithredu ar ailasesiadau yn gyflym ac yn ddi-oed. Yn achos ail-asesiad ar gyfer plentyn, rhaid i’r ail-asesiad fodloni’r amserlenni gofynnol ar gyfer asesu plant.

 

 

Rhannu Gwybodaeth Bersonol

101.      Mae’r parodrwydd a’r gallu i rannu gwybodaeth bersonol briodol a pherthnasol rhwng ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau yn ganolog i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig effeithiol.

 

102.      Mae’r broses asesu a nodir yn y cod hwn yn seiliedig ar yr egwyddor o weithio gyda phobl fel partneriaid llawn wrth nodi a diwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.

 

103.      Mae’r wybodaeth yn yr asesiad yn eiddo i’r sawl y mae ei anghenion yn cael eu hasesu, a rhaid i ymarferwyr sy’n cynnal asesiadau sicrhau bod y sawl sy’n rhoi caniatâd i rannu gwybodaeth yn deall yn llawn yr hyn y mae’n cytuno iddo a goblygiadau rhoi neu beidio â rhoi’r caniatâd hwn. Dylai gweithio gydag unigolion a theuluoedd o fewn perthynas broffesiynol sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, parch a hyder helpu i sicrhau nad yw’r sgwrs hon yn un anodd. Bydd bod yn agored a gonest, yn cynnwys bod yn ddiamwys ynglŷn â rhannu gwybodaeth a pharchu dymuniadau pobl lle bynnag y bo’n bosibl, yn helpu i gynnal yr ymddiriedaeth a’r hyder hwn. Mae’r sgwrs hon yn rhan annatod o sicrhau bod yr ymarferydd yn deall yn llawn anghenion yr unigolyn a’r ffordd orau o ddiwallu’r anghenion hynny, yn cynnwys pa ymarferwyr eraill allai gynorthwyo’r unigolyn.

 

104.      Mae’r cod hwn yn cymeradwyo argymhellion Caldicott 2[2] -  “…. there should be a presumption in favour of sharing for an individual’s direct care and that the exceptions should be thoroughly explained, not vice versa. The motto for better care services should be: ‘To care appropriately, you must share appropriately’.” Felly dylid rhagdybio bod y wybodaeth i gyd yn cael ei rhannu.

 

105.      Rhaid i awdurdod lleol weithio gyda phartneriaid i roi system ar waith i sicrhau, yn y man lleiaf, fod gwybodaeth bersonol yn y set ddata graidd genedlaethol ar gyfer unrhyw unigolyn neu deulu yn cael ei rhannu’n ddiogel ac yn briodol rhwng partneriaid. Lle bo’n briodol, bydd hyn yn cynnwys defnyddio fframwaith rhannu gwybodaeth Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru[3] a datblygu cytundebau rhannu gwybodaeth sy’n cydymffurfio â’r Cytundeb hwnnw. Dylai hyn sicrhau i raddau helaeth fod y trefniadau a roddir ar waith yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998. Rhaid i awdurdod lleol sicrhau hefyd fod staff yn cael cymorth a hyfforddiant priodol ar rannu gwybodaeth a chydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data. Rhaid i staff sy’n cyrchu neu’n defnyddio’r data gael hyfforddiant ar drin data’n dda a bod yn ymwybodol o faterion diogelwch. Rhaid rhoi gwybod i unigolion a theuluoedd am y rhannu hwn ar ddechrau’r broses asesu a chynllunio gofal a chymorth.

 

106.      Pan nodir bod plentyn neu oedolyn yn wynebu risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, dylid rhagdybio bod yr holl wybodaeth yn cael ei rhannu ymysg partneriaid perthnasol yn gynnar yn y broses, ar yr amod bod hynny’n gyfreithlon ac yn cadw at Ddeddf Diogelu Data 1998 a chanllawiau cysylltiedig.

 

Gwrthod Asesiadau

107.      Rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi unrhyw gynnig o asesiad o angen sy’n cael ei wrthod.

 

Oedolion:

108.      Os yw oedolyn yn gwrthod asesiad, nid yw dyletswydd yr awdurdod lleol i gynnal yr asesiad yn gymwys ac eithrio mewn dau achos lle mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynnal asesiad hyd yn oed os ceir gwrthodiad. Yr achos cyntaf yw lle nad oes gan yr oedolyn y galluedd i benderfynu gwrthod yr asesiad ac y byddai asesiad o fudd iddo. Yr ail achos yw lle mae oedolyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso. Os oes gan yr oedolyn sy’n cael ei gam-drin alluedd, ac mae’n penderfynu goddef y gamdriniaeth a gwrthod cymryd rhan mewn asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol asesu’r sefyllfa ar sail y wybodaeth sydd ganddo neu y mae wedi’i chael gan ei asiantaethau partner.

 

109.      Mae gan oedolyn sy’n gwrthod asesiad yr hawl i newid ei feddwl a rhaid i’r awdurdod lleol wedyn gynnal asesiad. Hefyd, os yw anghenion neu amgylchiadau’r oedolyn yn newid, rhaid i’r awdurdod lleol gynnig cynnal asesiad unwaith eto ond nid oes rheidrwydd arno i wneud hynny os yw’r oedolyn yn gwrthod (oni bai fod un o’r eithriadau’n gymwys).

 

 

Plant:

110.      Nid oes rheidrwydd ar yr awdurdod lleol i gynnal asesiad os yw plentyn 16 neu 17 oed yn gwrthod ond ar gyfer plant o dan 16 oed, nid oes rhagdybiaeth yn y gyfraith fod ganddynt alluedd. Er mwyn i wrthodiad gan blentyn o dan 16 oed ryddhau’r awdurdod lleol o’i ddyletswydd i gynnal asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol fod yn fodlon bod y plentyn yn gallu gwneud penderfyniad deallus. Rhaid cofnodi hyn ar yr offeryn asesu a chymhwystra.

 

111.      Yn achos plant 16 neu 17 oed, rhaid i’r awdurdod lleol ddiystyru gwrthodiad y plentyn mewn dau achos:

 

·                     pan fo’r awdurdod lleol yn fodlon nad oes gan y plentyn alluedd ac y byddai asesiad o fudd iddo.

 

·                     pan fo’r plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio mewn modd arall.

 

112.      Yn achos plentyn o dan 16 oed, rhaid i’r awdurdod lleol ddiystyru gwrthodiad gan blentyn y bernir bod ganddo’r galluedd i wneud penderfyniad deallus os yw’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio mewn modd arall.

 

113.      Mae gan blentyn sy’n gwrthod asesiad yr hawl i newid ei feddwl a rhaid i’r awdurdod lleol wedyn gynnal asesiad. Hefyd, os yw anghenion neu amgylchiadau’r plentyn yn newid, rhaid i’r awdurdod lleol gynnig cynnal asesiad unwaith eto ond nid oes rheidrwydd arno i wneud hynny os yw’r plentyn yn gwrthod (oni bai bod un o’r eithriadau’n gymwys).

 

Rhieni:

114.      Os oes unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn o dan 16 oed yn gwrthod asesiad ar gyfer y plentyn hwnnw, nid yw dyletswydd yr awdurdod lleol i asesu yn gymwys. Rhaid diystyru gwrthodiad rhiant mewn tri achos:

·         pan fo’r awdurdod lleol yn amau bod plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio mewn modd arall.

·         pan fo’r awdurdod lleol yn fodlon nad oes gan y rhiant y galluedd i benderfynu.

·         pan fo’r awdurdod lleol yn fodlon bod y plentyn yn gallu gwneud penderfyniad deallus ac yn anghytuno â barn y rhiant.


Gall rhiant sy’n gwrthod asesiad ar gyfer plentyn newid ei feddwl a rhaid i’r awdurdod lleol wedyn gynnal asesiad. Hefyd, os yw anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant, yn newid, rhaid i’r awdurdod lleol gynnig cynnal asesiad unwaith eto ond nid oes rheidrwydd arno i wneud hynny os yw’r rhiant yn gwrthod (oni bai bod un o’r eithriadau’n gymwys).

 

Gofalwyr:

115.      Os yw gofalwr sy’n oedolyn neu ofalwr 16 neu 17 oed yn gwrthod asesiad, nid yw’r ddyletswydd i asesu’n berthnasol. Mae gan ofalwr sy’n gwrthod asesiad yr hawl i newid ei feddwl a rhaid i’r awdurdod lleol wedyn gynnal asesiad. Hefyd, rhaid i’r awdurdod lleol gynnig cynnal asesiad unwaith eto os yw’n fodlon bod amgylchiadau’r gofalwr wedi newid ac y byddai asesiad pellach o fudd i’r gofalwr. Unwaith eto, nid oes rhaid i’r awdurdod lleol gynnal asesiad os yw’r gofalwr yn gwrthod.

 

Canlyniadau Asesiad

116.      Rhaid i awdurdod lleol gofnodi canlyniad yr asesiad ac unrhyw gyngor neu arweiniad a roddwyd ar yr offeryn asesu a chymhwystra. Ym mhob achos, rhaid i’r cofnod o’r asesiad gynnwys esboniad o sut bydd y camau gweithredu a argymhellir yn helpu i sicrhau’r canlyniad a nodwyd neu’n diwallu’r anghenion a nodwyd yn yr asesiad. Cyfrifoldeb yr aseswr yw hyn, nid y sawl sy’n cael ei asesu. Mae hyn yn berthnasol i’r anghenion hynny sydd i’w diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth a’r rhai sy’n cael eu diwallu drwy wasanaethau cymunedol neu wasanaethau ataliol, darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy, neu mewn unrhyw fodd arall. Rhaid cynnig copi o’r asesiad hwn i’r unigolyn neu’r teulu dan sylw yn yr asesiad, neu ei gynrychiolydd. Rhaid i gofnodi’r asesiad fod yn gymesur â’r angen a nodwyd a bod yn iaith yr angen, ac mewn fformat hawdd ei ddeall neu fformat arall fel sy’n briodol i anghenion y plentyn neu’r oedolyn y mae ei anghenion yn cael eu hasesu.

 

117.      Os yw’r asesiad yn dod i’r casgliad bod angen cynllun gofal a chymorth, dylid paratoi cynllun o’r fath yn ddi-oed. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ar gael yn y Cod Ymarfer ar gyfer Rhan 4 o’r Ddeddf.

 

118.      Os yw’r asesiad yn dod i’r casgliad y gallai’r gofal a’r cymorth sydd ei angen ar unigolyn i sicrhau ei ganlyniadau personol fod yn gyfystyr â cholli rhyddid, rhaid gwneud a chwblhau’r asesiadau ac atgyfeiriadau priodol[4].

 

Bydd asesiad yn dod i un o’r casgliadau hyn:

·         nid oes anghenion i’w diwallu;

·         mae angen asesiad mwy cynhwysfawr, a allai gynnwys asesiadau mwy arbenigol;

·         gall anghenion gael eu diwallu drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy;

·         gall anghenion gael eu diwallu drwy ddarparu gwasanaethau ataliol;

·         gall anghenion gael eu diwallu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, gan yr unigolyn ei hun (gyda neu heb gymorth pobl eraill);

·         gall materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau personol, neu ddiwallu’r anghenion;

·         dim ond trwy gynllun gofal a chymorth, neu gynllun cymorth, y gellir diwallu’r anghenion.

 

119.      Ym mhob achos rhaid ystyried yr atebion posibl o ran sut mae diwallu anghenion a sicrhau canlyniadau personol yn ystod y broses asesu. Dylai’r unigolyn, ac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r broses, yn cynnwys unrhyw un sy’n eirioli ar ran yr unigolyn hwnnw, wybod pa opsiynau sydd ar gael iddynt a beth mae hyn yn ei olygu iddynt. Pan fo’n berthnasol, rhaid i hyn gynnwys gwybodaeth am gostau, codi tâl a thaliadau uniongyrchol.

 

120.      Dylid ystyried cyfraniad gofalwyr hefyd a dylai’r asesiad gadarnhau a chofnodi eu bod yn barod i gyfrannu at ofal a chymorth yr unigolyn a’u bod yn gallu gwneud hynny.

 

121.      Nid yw cwblhau asesiad yn arwain at gynllun gofal a chymorth o reidrwydd. Mae’r penderfyniad hwn yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad, ac a oes cytundeb bod yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ac mae cynllun gofal a chymorth yn cael ei ddatblygu ar gyfer yr unigolyn. Bydd hyn yn cynnwys amgylchiadau lle mae angen cynllun gofal a chymorth i roi cymorth neu gynhorthwy a fydd yn galluogi’r unigolyn neu’r teulu i gael gwasanaethau, fel gwasanaethau’r trydydd sector yn y gymuned neu fentrau cymdeithasol, y byddent yn gallu eu defnyddio fel arall heb yr angen am gynllun gofal a chymorth. Mae rhagor o fanylion am hyn yn y Cod Ymarfer ar gyfer Rhan 4 o’r Ddeddf sy’n rhoi sylw i gymhwystra a chynllunio gofal a chymorth.

 

122.      Rhaid i’r awdurdod lleol alluogi’r unigolyn y mae ei anghenion wedi cael eu hasesu i gael dealltwriaeth glir o ganlyniad yr asesiad a beth fydd yn digwydd nesaf. Gallai hyn olygu sicrhau cymorth perthnasau, ffrindiau neu eiriolwr annibynnol. Ceir canllawiau manwl ar sut gall eiriolaeth gynorthwyo unigolyn yn y cod ymarfer ar gyfer eiriolaeth o dan Ran 10 a Rhannau cysylltiedig o’r Ddeddf.


 

Atodiad 1                 

Canllawiau ar Bum Elfen Asesiad

Amgylchiadau Unigolyn:

Rhoddir enghreifftiau o anghenion a gyflwynir yma. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pob un dim a chyfrifoldeb yr awdurdod lleol fydd pennu bod unigolyn angen gofal, cymorth neu’r ddau.

Nid yw/ni fydd yr unigolyn yn gallu cwblhau gweithgareddau gofal personol sylfaenol

•        Mae’r unigolyn yn annhebygol o allu sicrhau neu gynnal, neu gael y cyfle i sicrhau neu gynnal, safon resymol o iechyd neu ddatblygiad, neu bydd ei iechyd neu ddatblygiad yn cael eu hamharu’n sylweddol, neu eu hamharu ymhellach, yn ôl pob tebyg.

•        Nid yw/ni fydd yr unigolyn yn gallu cyflawni gweithgareddau sylfaenol yn y cartref a threfn feunyddiol.

•        Nid yw/ni fydd oedolyn yn gallu cyflawni’r cyfrifoldebau gofalu sydd gan yr oedolyn dros blentyn.

•        Pan fo’r unigolyn yn ofalwr, nid yw’r unigolyn hwnnw’n gallu darparu peth o’r gofal angenrheidiol i’r oedolyn sydd angen gofal, neu nid yw’n gallu darparu gofal i bobl eraill y mae’r gofalwr yn darparu gofal iddynt.

Pan fo’r gofalwr yn blentyn, nid yw’r plentyn yn debygol o gyflawni nodau datblygiadol;

•        Nid yw/ni fydd yr unigolyn yn gallu cael cymorth i gynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu berthnasoedd personol pwysig eraill

•        Mae’r unigolyn yn colli rheolaeth, neu’n debygol o golli rheolaeth, dros yr amgylchedd o’i gwmpas a/neu fywyd pob dydd.

•        Nid yw’r unigolyn yn gallu, neu nid yw’n debygol o allu, cyflawni rolau a chyfrifoldebau o fewn y teulu a’r gymdeithas sy’n ei alluogi i gyflawni canlyniadau personol ar gyfer ei hun neu bobl eraill.

•        Mae systemau cefnogi cymdeithasol yn y fantol neu fe allent fod yn y fantol

•        Nid yw’r unigolyn yn gallu cael neu brofi iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl da

•        Nid yw/ni fydd yr unigolyn yn gallu manteisio ar a chymryd rhan mewn gwaith, hyfforddiant, gweithgareddau gwirfoddoli neu hamdden.

•        Mae annibyniaeth yr oedolyn yn y fantol, neu’n debygol o fod yn y fantol.

Rhaid dadansoddi’r anghenion a gyflwynir drwy gyfeirio at yr effaith y caiff yr anghenion ar yr unigolyn neu’r teulu dan sylw a/neu drwy gyfeirio at amgylchiadau unigolyn. Rhaid i’r broses o bennu cymhwystra ystyried hefyd y posibilrwydd bod anghenion unigolyn yn rhan o gyfuniad o anghenion sy’n effeithio ar yr unigolyn dan sylw.

 


 

Canlyniadau Personol:

 

Rhaid pennu canlyniadau personol drwy broses asesu gymesur, ac er eu bod yn unigryw i bawb, byddant yn ymwneud â’r canlyniadau cenedlaethol yn y datganiad llesiant, sydd wedi’u diffinio yn erbyn y diffiniad o lesiant yn y Ddeddf. Mae’r datganiad llesiant ar gael yn:

http://gov.wales/docs/dhss/publications/150722wellbeingcy.pdf

 

Er mwyn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer gofal a chymorth sy’n cael ei ddarparu neu ei drefnu gan awdurdod lleol, mae’r canlyniadau personol y mae angen yn berthnasol iddynt wedi’u rhoi yn y rheoliadau fel a ganlyn:

Ar gyfer Oedolion:

·         gallu gofalu am eu hunain neu ymdopi â threfn ddomestig;

·         gallu cyfathrebu;

·         cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso;

·         cymryd rhan mewn gwaith, addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden;

·         cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu berthnasoedd personol pwysig eraill;

·         datblygu a chynnal cysylltiadau cymdeithasol a chymryd rhan yn y gymuned; neu

·         gyflawni cyfrifoldebau gofal am blentyn;

Ar gyfer Plant:

·         gallu gofalu am eu hunain neu ymdopi â threfn ddomestig;

·         gallu cyfathrebu;

·         cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso;

·         cymryd rhan mewn gwaith, addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden;

·         cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu berthnasoedd personol pwysig eraill;

·         datblygu a chynnal cysylltiadau cymdeithasol a chymryd rhan yn y gymuned; neu

·         cyflawni nodau datblygiadol;

 

Ar gyfer Gofalwyr:

 

·         gallu gofalu am eu hunain neu ymdopi â threfn ddomestig;

·         gallu cyfathrebu;

·         cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso;

·         cymryd rhan mewn gwaith, addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden;

·         cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu berthnasoedd personol pwysig eraill;

·         datblygu a chynnal cysylltiadau cymdeithasol a chymryd rhan yn y gymuned; neu

·         yn achos gofalwr sy’n oedolyn, cyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn;

·         yn achos gofalwr sy’n blentyn, cyflawni nodau datblygiadol;

 

 


 

Rhwystrau:

 

Mae unigolyn yn wynebu rhwystrau wrth geisio cyflawni ei ganlyniadau personol os yw rhywbeth sy’n ymwneud â chyflwr neu amgylchiadau’r unigolyn, neu rywbeth sydd y tu hwnt i’w reolaeth, yn ei rwystro rhag cyflawni ei ganlyniadau.

 

Wrth ddiffinio rhwystr, bydd angen i’r asesiad ystyried:

·         Y wybodaeth a gyflwynir gan yr unigolyn, a/neu ei deulu neu ofalwr, ac asiantaethau a phobl eraill am ei anghenion, canlyniadau personol, adnoddau a risgiau.

·         Barn broffesiynol y gweithiwr a’i wybodaeth am y gwasanaethau neu gymorth a fyddai’n fwyaf defnyddiol i’r unigolyn a/neu ei deulu neu ofalwr yn ôl pob tebyg, wedi’u hategu gan y protocolau proffesiynol a’r dyletswyddau sefydliadol i ymddwyn mewn ffordd a fydd yn sicrhau lles gorau’r unigolyn.

·         Gwybodaeth a chanllawiau lleol am y gwasanaethau sydd ar gael.

 

 


 

Risgiau i gyflawni canlyniadau personol:

 

Mae gwerthuso risg yn hanfodol wrth bennu angen am ofal a chymorth. Yma mae dadansoddi risg yn seiliedig ar ddealltwriaeth o’r risgiau hynny a fydd yn atal pobl rhag mynd yn orddibynnol ar wasanaethau ac yn tanseilio’u potensial i gyflawni eu canlyniadau personol. Am esboniad o ddyletswyddau’r awdurdod lleol mewn perthynas â risg pobl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu eu niweidio, trowch at yr adran ar ddiogelu ac amddiffyn yn y canllawiau hyn - rhaid cydymffurfio â’r rhain hefyd yn ystod y broses asesu.

 

Wrth edrych ar risgiau posibl i gyflawni canlyniadau personol, dylai’r ymarferydd a’r unigolyn fynd ati gyda’i gilydd i ystyried yr amserlen, natur ragweladwy a chymhlethdod y problemau a gyflwynir.

 

Mae’n bosibl y bydd gan unigolyn nifer o elfennau risg isel na fyddent ynddynt eu hunain yn bygwth gallu’r unigolyn i gyflawni canlyniadau personol, ond bydd y cyfuniad o risgiau a sut maent yn rhyngweithio yn creu bygythiad mwy difrifol.

 

Mae cymryd risgiau cadarnhaol yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd sy’n ychwanegu at annibyniaeth a dewis. Rhaid i’r broses o bennu cymhwystra benderfynu a oes gan yr unigolyn y gallu i asesu’r risgiau drosto’i hun ac a yw’n fodlon ac yn gallu derbyn a byw gyda’r risgiau hynny.

 

Rhaid i’r broses o bennu cymhwystra fod yn seiliedig ar werthfawrogiad o’r cydbwysedd rhwng sicrhau nad yw iechyd a diogelwch oedolion agored i niwed a phobl eraill yn y fantol a chyfyngu ar ddewis, hunanreolaeth ac annibyniaeth unigolion penodol. Er mwyn rheoli’r cydbwysedd hwn, wrth wneud penderfyniadau lle mae ansicrwydd, rhaid cynnal yr asesiad ar y cyd â’r defnyddiwr a bydd yn cael ei lywio gan ei ddewisiadau a’i ddymuniadau mewn perthynas â chyflawni a gwella’i allu i gyflawni ei ganlyniadau personol.

 

O ganlyniad i’r dadansoddiad hwn, ond nid o reidrwydd, gallai fod angen cynllun gofal a chymorth sy’n cynnwys deall a rhagweld gweithgareddau a fydd yn peri risg naill ai i’r unigolyn a/neu eraill a datblygu cynllun gweithredu sy’n gallu rheoli’r sefyllfa’n briodol.


 

 

Cryfderau a Galluoedd:

 

Y sgiliau, y galluedd, y cymorth a’r deunyddiau sydd ar gael i unigolyn ganddo’i hun, ei deulu a’i gymuned, y gellir manteisio arnynt i ddiwallu ei anghenion a hyrwyddo ei lesiant.

 

Swyddogaeth y broses asesu a chynllunio gofal a chymorth yw nodi’r adnoddau personol hyn, galluogi’r unigolyn i wneud y defnydd gorau ohonynt, a chynyddu gymaint â phosibl eu cyfraniad at gyflawni canlyniadau personol.

 

Mae anghenion pobl yn amrywio ac mae amgylchiadau’n newid a rhaid i’r broses asesu roi cyfle i ymarferwyr edrych am y newidiadau hynny a’u rhagweld. Ar unrhyw adeg arbennig, bydd gan bob unigolyn anghenion y mae ganddo adnoddau digonol i allu goresgyn rhwystrau a chyflawni ei ganlyniadau personol mewn perthynas â nhw, a bydd ganddo anghenion eraill nad oes ganddo adnoddau digonol ar eu cyfer a bydd angen gofyn llunio a darparu cynllun gofal a chymorth. Bydd y patrwm: “gallaf ddiwallu’r anghenion hyn/rwyf angen cymorth gyda’r anghenion hyn” yn amrywio dros amser ac yn unol ag amgylchiadau pob unigolyn.

 


Atodiad 2 

Egwyddorion Wrth Wraidd Asesu Plant

Mae egwyddorion pwysig sydd wedi ennill eu plwyf wrth wraidd y dull a ddefnyddir i asesu plant a’u teuluoedd. Maent yn bwysig wrth ystyried sut dylid mynd ati i gynnal asesiad.

EGWYDDORION WRTH WRAIDD ASESU PLANT

 

Mae asesiadau:

 

_ yn canolbwyntio ar y plentyn;

_ â’u gwreiddiau ym maes datblygiad plant;

_ yn defnyddio dull cyfannol;

_ yn sicrhau cyfle cyfartal;

_ yn golygu gweithio gyda phlant a theuluoedd;

_ yn adeiladu ar gryfderau yn ogystal â nodi anawsterau;

_ yn defnyddio dull rhyngasiantaethol i asesu a darparu gwasanaethau;

_ yn broses barhaus, nid yn un digwyddiad unigol;

_ yn cael eu cynnal ochr yn ochr â chamau gweithredu eraill a darparu gwasanaethau;

_ yn defnyddio gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth fel eu sail.

 

Canolbwyntio ar y Plentyn

Mae hyn yn golygu bod y plentyn yn cael ei weld a’i ystyried gydol yr asesiad a bod safbwynt y plentyn yn cael ei ystyried bob amser. Mewn sefyllfaoedd cymhleth lle mae llawer yn digwydd, gall sylw gael ei dynnu oddi ar y plentyn a’i roi i faterion eraill sy’n wynebu’r teulu, fel llawer o wrthdaro rhwng oedolion y teulu, neu riant yn dioddef o iselder neu broblemau tai acíwt. O ganlyniad i hyn, gall y plentyn fynd ar goll yn ystod yr asesiad ac nid yw effaith amgylchiadau’r teulu a’r amgylchedd ar y plentyn yn cael eu nodi a’u deall yn glir. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gweld ac arsylwi ar y plentyn gydol unrhyw asesiad.

Felly, mae pwysigrwydd gwneud gwaith uniongyrchol gyda phlant yn ystod asesiad yn cael ei bwysleisio, yn cynnwys datblygu sawl dull gwahanol i’w defnyddio gyda phlant o oedran, rhyw a diwylliant gwahanol i ganfod eu dymuniadau a’u teimladau, a deall ystyr eu profiadau iddynt. Dylid sicrhau diogelwch y plentyn gydol y broses asesu.

Gwreiddiau ym maes Datblygiad Plant

Mae dealltwriaeth drylwyr o ddatblygiad plant yn hollbwysig ar gyfer gweithio gyda phlant a’u teuluoedd. Mae gan blant amrywiaeth o anghenion datblygiadol gwahanol a chymhleth y mae’n rhaid eu diwallu ar wahanol adegau o blentyndod er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau. Efallai y bydd plant anabl, yn cynnwys rhai ag anableddau dysgu, yn gwneud cynnydd ar draws y gwahanol gamau datblygu ar gyflymder gwahanol. Bydd gan lawer o blant anabl batrymau datblygu unigol iawn. Yn ogystal, bydd gwahanol agweddau ar ddatblygiad yn fwy neu’n llai pwysig ar wahanol adegau o fywyd plentyn.

Mae profiadau penodol plentyn a’r rhyngweithio a geir rhwng cyfres o ffactorau yn cael dylanwad sylweddol ar ei ddatblygiad. Mae rhai ffactorau yn gynhenid i blant unigol, megis nodweddion etifeddiaeth enetig neu natur. Gall ffactorau eraill gynnwys problemau iechyd arbennig neu nam. Gall eraill ymwneud â’i ddiwylliant a’r amgylchedd ffisegol ac emosiynol y mae’r plentyn yn byw ynddo.

Mae plant sydd angen gofal a chymorth yn agored iawn i niwed yn aml ac mae eu cyfleoedd i gyrraedd eu potensial llawn wedi cael neu’n debygol o gael eu llesteirio mewn rhyw ffordd, am amrywiaeth o resymau. Felly, mae’n hanfodol gwybod am bwysigrwydd cerrig milltir datblygiadol y mae angen i blant eu cyrraedd, fel y byddant yn iach ac yn cyflawni eu potensial llawn. Dylai’r wybodaeth hon gydnabod hefyd fod plant yn unigolion a gallai’r drefn ddatblygu amrywio: gallai amrywiadau o’r fath, fodd bynnag, fod yn arwydd bod angen gwasanaethau. Dylai ymarferwyr ddeall canlyniadau amrywiadau i blant arbennig o wahanol oedrannau, rhai ohonynt ag anghenion addysgol arbennig ac anawsterau difrifol o bosibl. Ymhellach, rhaid iddynt ddeall arwyddocâd amseru ym mywyd plentyn. Mae’n bosibl nad yw plant yn cael yr hyn maent ei angen ar adeg hollbwysig yn eu datblygiad ac mae amser yn mynd heibio.

Dull Cyfannol

Rhaid i ddealltwriaeth o blentyn fod wedi’i lleoli yng nghyd-destun teulu’r plentyn (rhieni neu ofalwyr a’r teulu ehangach) a’r gymuned a’r diwylliant y mae’r plentyn yn cael ei fagu ynddynt.

Dylai asesiad, felly, ystyried tri maes:

·          anghenion datblygiadol y plentyn;

·          gallu’r rhieni neu’r gofalwyr i ymateb yn briodol;

·          y teulu ehangach a ffactorau amgylcheddol.

 

Rhaid dadansoddi’n ofalus y rhyngweithio rhwng y tri maes a’r ffordd maent yn dylanwadu ar ei gilydd er mwyn cael darlun llawn o anghenion y plentyn am ofal a chymorth sydd heb eu diwallu, a sut dylid diwallu’r anghenion hyn.

Sicrhau Cyfle Cyfartal

 

Dylid ystyried plant a phobl ifanc a’u rhieni fel unigolion sydd ag anghenion penodol, a dylid parchu a deall gwahaniaethau posibl wrth fagu plant yn sgil strwythurau, crefydd, diwylliant a tharddiad ethnig y teulu. Dylid hefyd sicrhau bod anghenion a aseswyd plant ag ‘anghenion cymdeithasol penodol sy’n deillio o anabledd neu gyflwr iechyd’ yn cael eu diwallu a’u hadolygu. Mae sicrhau bod pob plentyn sy’n cael ei asesu yn cael y cyfle i sicrhau’r datblygiad gorau posibl, yn unol â’i amgylchiadau ac oedran, yn egwyddor bwysig. Yn ogystal, gan fod gwahaniaethu o bob math yn elfen feunyddiol o fywydau llawer o blant, rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw ymatebion asiantaethau yn adlewyrchu neu’n cadarnhau’r profiad hwnnw. Yn wir, dylent wrthbwyso hyn. Mae’n bosibl bod rhai plant agored i niwed wedi wynebu anfantais wrth geisio manteisio ar gyfleoedd pwysig, fel plant sydd wedi gweld llawer o helbul teuluol neu sydd wedi cael eu trin yn wael dros gyfnod hir drwy gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol o ganlyniad. Bydd angen sylw arbennig ar eu hanghenion iechyd ac addysg er mwyn sicrhau’r canlyniadau hirdymor gorau posibl iddynt fel oedolion ifanc.

Nid yw sicrhau cyfle cyfartal yn golygu trin pob plentyn yr un fath. Mae’n golygu deall a gweithio gydag amrywiaeth mewn modd sensitif a gwybodus i ganfod y problemau penodol sydd gan blentyn a’i deulu, gan ystyried profiadau a’r cyd-destun teuluol.

 

Gweithio gyda Phlant a’u Teuluoedd

Yn y broses asesu, bydd hi’n hanfodol datblygu perthynas waith gydweithredol, fel bod rhieni neu ofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u hysbysu, bod staff yn agored a gonest gyda nhw, a’u bod nhw yn eu tro yn hyderus i roi gwybodaeth hollbwysig am eu plentyn, eu hunain a’u hamgylchiadau.

Nid yw gweithio gydag aelodau’r teulu yn nod ynddo’i hun; rhaid mai’r amcan yn ddieithriad yw diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn. Rhaid canolbwyntio, felly, ar y plentyn. Mae angen deall a bod yn sensitif i amgylchiadau teuluoedd a’u hanghenion penodol.

Mae rhieni’n gwerthfawrogi cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â sut a ble fydd yr asesiad yn cael ei gynnal, yn ogystal â beth maent yn gobeithio y bydd yn ei gyflawni. Yn yr un modd, yn unol ag oedran a datblygiad y plentyn, mae plant yn gwerthfawrogi pobl yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud a gweithio’n agored ac yn onest, ac mae hyn yn arwain at ganlyniadau mwy effeithiol.

Ni fydd datblygu perthynas waith gyda phlant ac aelodau’r teulu yn hawdd bob tro a gall fod yn anodd yn enwedig lle bu pryderon am niwed sylweddol i’r plentyn. Waeth pa mor gyndyn yw’r teulu neu waeth pa mor anodd yw’r amgylchiadau, mae’n bwysig parhau i geisio canfod ffyrdd o gynnwys y teulu yn y broses asesu. Gallai cyfryngu fod yn ddefnyddiol wrth helpu gweithwyr proffesiynol ac aelodau’r teulu i weithio gyda’i gilydd. Bydd ansawdd y cysylltiad cynnar neu gyntaf yn effeithio ar y berthynas waith maes o law a gallu gweithwyr proffesiynol i sicrhau dealltwriaeth gytûn o’r hyn sy’n digwydd a darparu help.

Adeiladu ar Gryfderau yn ogystal â Nodi Anawsterau

Mae’n bwysig bod dull asesu, sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth lawn o’r hyn sy’n digwydd i blentyn yng nghyd-destun ei deulu a’r gymuned ehangach, yn edrych yn ofalus ar natur y rhyngweithio rhwng y plentyn, y teulu a ffactorau amgylcheddol ac yn nodi dylanwadau cadarnhaol a negyddol. Bydd y rhain yn amrywio ar gyfer pob plentyn. Ni ellir rhagdybio unrhyw beth; rhaid chwilio am y ffeithiau, ac archwilio a phwyso a mesur yr ystyr sydd ynghlwm wrthynt gyda’r teulu.

Weithiau mae asesiadau wedi ymwneud i raddau helaeth ag anawsterau neu broblemau plentyn neu deulu, neu’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ymddwyn mewn ffyrdd penodol neu sefyllfaoedd penodol. Mae’n bosibl bod yr hyn sy’n gweithio’n dda neu unrhyw beth sy’n ffactor cadarnhaol ar gyfer y plentyn a’r teulu’n cael eu hanwybyddu. Gall gweithio gyda chryfderau plentyn neu deulu fod yn rhan bwysig o gynllun i ddatrys anawsterau. Mae’n bwysig eu bod nid yn unig yn nodi’r gwendidau wrth asesu sefyllfa teulu, ond hefyd yn rhoi arfarniad realistig sy’n seiliedig ar wybodaeth o gryfderau ac adnoddau’r teulu a’r pwyslais cymharol y dylid ei roi i bob un. Gellir manteisio arnynt i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn.

Dull Rhyngasiantaethol o Asesu a Darparu Gwasanaethau

O adeg ei eni, bydd pob plentyn yn cael cysylltiad gydag amrywiaeth o asiantaethau gwahanol yn y gymuned, yn enwedig mewn perthynas â’i iechyd, gofal dydd a datblygiad addysgol. Bydd amryw o weithwyr proffesiynol, yn eu plith fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu, staff meithrin ac athrawon, yn asesu ei lesiant a’i ddatblygiad cyffredinol. Felly, mae plant agored i niwed yn debygol o gael eu nodi gan y gweithwyr proffesiynol hyn, a bydd ganddynt gyfrifoldeb pwysig wrth benderfynu a ddylid cyfeirio’r plant at wasanaethau cymdeithasol er mwyn eu hasesu ymhellach a’u helpu. Mae’r hyn maent yn ei wybod eisoes am blentyn a theulu yn elfen hollbwysig o unrhyw asesiad. Mae’n bosibl y bydd rhaid i’r asiantaethau hyn hefyd ddarparu asesiad mwy arbenigol ar gyfer y niferoedd llai o blant sy’n destun pryder arbennig.

Yn yr un modd, bydd ymateb i anghenion plant agored i niwed yn gofyn am wasanaethau gan asiantaethau heblaw y gwasanaethau cymdeithasol neu ar y cyd â chymorth gwasanaethau cymdeithasol. Mae gwaith rhyngasiantaethol yn dechrau cyn gynted ag y mae pryderon am les plentyn, ac nid pan fo ymchwiliad ynghylch niwed sylweddol yn unig. Felly, egwyddor bwysig wrth wraidd asesiad yw ei fod yn seiliedig ar fodel rhyngasiantaethol lle nad adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn unig sy’n asesu ac yn darparu gwasanaethau.



Proses Barhaus, nid Un Digwyddiad

Ni ellir deall beth sy’n digwydd i blentyn agored i niwed yng nghyd-destun ei deulu a’r gymuned leol fel un digwyddiad. Mae’n angenrheidiol ei bod yn broses o gasglu gwybodaeth gan amrywiaeth o ffynonellau a gwneud synnwyr ohoni gyda’r teulu ac, yn aml iawn, gyda llawer o weithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â lles y plentyn.

Mae’r broses asesu hon yn cynnwys un neu fwy o’r canlynol:

·         meithrin perthynas waith dda gyda’r plentyn a’r teulu;

·         datblygu dealltwriaeth ddyfnach drwy ddefnyddio sawl dull gwahanol ar gyfer y dasg asesu;

·         sefydlu trefniadau asesu ar y cyd neu rai cyfochrog gyda gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill, fel sy’n briodol;

·         pennu pa fathau o ymyriadau sy’n fwyaf tebygol o fod yn effeithiol ar gyfer pa anghenion.

I lawer o blant, bydd y broses yn un gymharol syml a byrdymor. Po fwyaf cymhleth neu ddifrifol yw sefyllfa plentyn, fodd bynnag, mwya’n byd o amser y gallai gymryd i gael dealltwriaeth drwyadl o’r hyn sy’n digwydd i’r plentyn, y rhesymau pam a’r effaith ar y plentyn, a’r mwyaf tebygol ydyw y bydd angen cynnwys sawl asiantaeth yn y broses honno. Pan fo pryderon am ddiogelwch plentyn, rhaid gwneud penderfyniadau ynghylch diogelu’r plentyn yn gyflym hyd nes y ceir gwell dealltwriaeth o amgylchiadau’r plentyn. Ar ôl pennu a oes gan blentyn anghenion gofal a chymorth, bydd angen ateb cwestiynau eraill o hyd am:

·         safbwyntiau’r rhieni am anghenion y plentyn a’r gwasanaethau sydd eu hangen;

·         union natur yr anghenion hyn;

·         y rhesymau drostynt;

·         y flaenoriaeth ar gyfer camau gweithredu a/neu adnoddau;

·         y potensial am newid yn y plentyn a’r teulu;

·         yr opsiynau gorau i ganolbwyntio arnynt;

·         ymateb y plentyn a’r teulu i ymyrraeth

·         pa mor dda mae’r plentyn yn ei wneud.

 

Dylai’r asesiad barhau gydol yr ymyrraeth, a gall ymyrraeth gael ei rhoi ar waith ar ddechrau asesiad.

Felly mae asesiad yn broses ailadroddol a fydd yn parhau gydol y gwaith gyda’r plentyn a’r teulu neu’r gofalwyr yn achos rhai plant. Nid yw hyn yn golygu y dylai asesiad fod yn or-ymwthiol, gael ei ailadrodd yn ddiangen neu ei barhau heb unrhyw ddiben neu ganlyniad clir. Mae gwahaniaethu effeithiol rhwng gwahanol fathau a lefelau o angen yn ystyriaethau allweddol.

 

Gweithredu a Darparu Gwasanaethau Ochr yn Ochr ag Asesiad

Er bod asesiad yn broses gynnil ar y cyfan a fydd yn arwain at ddealltwriaeth o angen, a ddefnyddir fel sail i gyfeirio at wasanaethau ataliol neu ddatblygu cynllun ac ymyrraeth gofal a chymorth, mae’r gwahanol weithgareddau hyn yn gorgyffwrdd yn anochel mewn aml i sefyllfa. Gall cynnal asesiad gyda theulu fod yn ddechrau proses o ddeall a newid gan aelodau allweddol o’r teulu. Gall ymarferydd, yn ystod y broses casglu gwybodaeth, sicrhau newid drwy’r cwestiynau mae’n ei ofyn, drwy wrando ar aelodau’r teulu, drwy ddilysu anawsterau neu bryderon y teulu, a thrwy ddarparu gwybodaeth a chyngor. Dylai’r broses asesu fod yn therapi ynddi’i hun. Nid yw hyn yn nacau’r angen i weithredu’n amserol, naill ai i ddarparu gwasanaethau yn ddi-oed neu i gymryd camau i amddiffyn plentyn sy’n dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol. Dylid gweithredu a darparu gwasanaethau yn unol ag anghenion y plentyn a’r teulu, ochr yn ochr ag asesiad lle bo angen, yn hytrach nag aros nes cwblhau’r asesiad.

Seiliedig ar Wybodaeth

Mae gwybodaeth pob disgyblaeth broffesiynol yn deillio o sail ddamcaniaethol benodol, o ganfyddiadau ymchwil perthnasol ac o gronni doethineb ymarfer a phrofiad. Mae ymarfer gwaith cymdeithasol, fodd bynnag, yn wahanol gan fod ei wybodaeth yn deillio o ddamcaniaeth a gwaith ymchwil mewn sawl disgyblaeth wahanol. Mae ymarfer yn seiliedig hefyd ar bolisïau sydd wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth a chanllawiau’r llywodraeth. Mae’n hanfodol bod ymarferwyr a’u rheolwyr yn sicrhau bod ymarfer a goruchwylio ymarfer yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf a’u bod yn defnyddio’r adnoddau a ddisgrifir yn y canllawiau ymarfer yn ogystal â deunyddiau hollbwysig eraill, yn cynnwys:

·         canfyddiadau ymchwil perthnasol;

·         data ystadegol cenedlaethol a lleol;

·         polisïau a chanllawiau ymarfer cenedlaethol;

·         Fframwaith Arolygu Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC);

·         y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol;

·         y Fframwaith Mesur Perfformiad;

·         gwersi a ddysgwyd o ymchwiliadau ac adolygiadau cenedlaethol a lleol o achosion o blant yn cael eu trin yn wael.

 

Disgwylir i ymarfer fod yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n golygu bod ymarferwyr yn:

·         defnyddio gwybodaeth o waith ymchwil ac ymarfer am anghenion plant a theuluoedd a chanlyniadau gwasanaethau ac ymyriadau yn feirniadol i lywio’u gwaith asesu a chynllunio;

·         cofnodi a diweddaru gwybodaeth yn systematig, gwahanu ffynonellau o wybodaeth, er enghraifft, arsylwi uniongyrchol, cofnodion asiantaethau eraill neu gyfweliadau gydag aelodau’r teulu;

·         dysgu o safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau h.y. plant a theuluoedd;

·         gwerthuso’n barhaus a yw’r ymyrraeth yn effeithiol o ran ymateb i anghenion plentyn unigol a theulu ac addasu eu hymyriadau o ganlyniad;

·         gwerthuso’n drwyadl y wybodaeth, y prosesau a’r canlyniadau o ymyriadau’r ymarferydd ei hun i ddatblygu doethineb ymarfer.

Cyfuniad o ymarfer seiliedig ar dystiolaeth gyda gwybodaeth yn sail iddo, a chrebwyll proffesiynol cytbwys, yw’r sail i ymarfer effeithiol gyda phlant a theuluoedd.

 


 

Fframwaith ar gyfer Asesu Plant a’u Theuluoedd

 

Text Box: Adnoddau
 Cymunedol
 Text Box: Tai Text Box: Teulu Ehangach Text Box: Hanes a Gweithrediad y Teulu
 

 

 

 

 

 


Y GALLU I FAGU PLANTANGHENION DATBLYGU'R PLENTYN

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mae asesu a oes gan blentyn anghenion gofal a chymorth a natur yr anghenion hyn yn gofyn am ddull systematig sy’n defnyddio’r un map cysyniadol ar gyfer casglu a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer pob plentyn a’i deulu. Mae’n gofyn am ddealltwriaeth drylwyr o:

·         anghenion datblygiadol plant;

·         gallu rhieni neu ofalwyr i ymateb yn briodol i’r anghenion hynny;

·         effaith ffactorau teuluol ac amgylcheddol ehangach ar y gallu i fagu plant ac ar blant. PARENTING CAPACITY

Caiff y rhain eu disgrifio fel tair system neu dri pharth rhyng-gysylltiedig, pob un ohonynt â nifer o ddimensiynau hollbwysig (Ffigur 2). Mae angen edrych yn ofalus ar y rhyngweithio rhwng y dimensiynau hyn neu eu dylanwad ar ei gilydd yn ystod yr asesiad, gyda’r nod yn y pen draw o ddeall sut maent yn effeithio ar y plentyn neu’r plant yn y teulu.

Bydd y dadansoddiad hwn o sefyllfa’r plentyn yn llywio’r gwaith cynllunio a chamau gweithredu i sicrhau’r canlyniadau personol gorau ar gyfer y plentyn. Rhaid i unrhyw waith asesu, ac unrhyw waith cynllunio a darparu gwasanaethau sy’n dilyn yr asesiad, ganolbwyntio ar sicrhau bod lles y plentyn yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo.

Dimensiynau Anghenion Datblygiadol Plentyn

Er mwyn asesu’r hyn sy’n digwydd i blentyn, rhaid edrych ar bob agwedd ar gynnydd datblygiadol plentyn, yng nghyd-destun oedran a cham datblygiadol y plentyn. Mae hyn yn cynnwys gwybod a yw plentyn wedi cyrraedd ei gerrig milltir datblygiadol disgwyliedig. Rhaid ystyried unrhyw ffactorau sy’n gwneud y plentyn yn agored i niwed, fel anabledd dysgu neu gyflwr nam corfforol, a’r effaith y gallent fod yn ei chael ar gynnydd yn unrhyw un o’r dimensiynau datblygiadol. Dylid ystyried hefyd y ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n analluogi plentyn ac yn cael effaith ar ei ddatblygiad, fel mynediad cyfyngedig i blant anabl a mathau eraill o wahaniaethu. Gall datblygiad plant sydd wedi cael eu trin yn wael gael ei lesteirio o ganlyniad i anafiadau a gafwyd a/neu effaith trawma ei gamdriniaeth. Rhaid cael dealltwriaeth glir o’r hyn y gall plentyn penodol ei gyflawni’n llwyddiannus ym mhob cam datblygiadol, er mwyn sicrhau y caiff gyfle i gyrraedd ei botensial yn llawn.

Pan fo ymarferwyr yn cynnal asesiad o anghenion datblygiadol plentyn, dylent:

·         nodi’r meysydd datblygiadol i roi sylw iddynt a’u cofnodi;

·         cynllunio sut mae mesur cynnydd datblygiadol;

·         sicrhau bod ystyriaeth briodol o oedran a cham datblygiadol plentyn

·         dadansoddi gwybodaeth fel sail i gynllunio camau gweithredu’r dyfodol.

 

DIMENSIYNAU ANGHENION DATBLYGIADOL PLENTYN

Iechyd

Yn cynnwys twf a datblygiad yn ogystal â llesiant corfforol a meddyliol. Dylid ystyried effaith ffactorau genetig ac unrhyw nam. Yn cynnwys cael gofal iechyd priodol pan yn sâl, diet digonol a maethlon, ymarfer corff, brechiadau lle bo’n briodol a gwiriadau datblygiadol, gofal deintyddol ac optegol ac, ar gyfer plant hŷn, cyngor a gwybodaeth briodol ynghylch materion sy’n cael effaith ar iechyd, yn cynnwys addysg rhyw a chamddefnyddio sylweddau.

Addysg

Cwmpasu pob agwedd ar ddatblygiad gwybyddol plentyn sy’n dechrau adeg geni.

Yn cynnwys cyfleoedd: i chwarae a rhyngweithio gyda phlant eraill; i gael mynediad at athrawon; i feithrin amrywiaeth o sgiliau a diddordebau; i gael blas ar lwyddiant a chyrhaeddiad. Yn cynnwys oedolyn sydd â diddordeb mewn gweithgareddau, cynnydd a chyraeddiadau addysgiadol, sy’n ystyried man cychwyn y plentyn ac unrhyw anghenion addysgol arbennig.

Datblygiad Emosiynol ac Ymddygiadol

Ymwneud â pha mor briodol yw ymateb sy’n cael ei fynegi yn nheimladau a gweithredoedd plentyn, tuag at rieni a gofalwyr i ddechrau ac, wrth i’r plentyn dyfu’n hŷn, pobl eraill y tu hwnt i’r teulu.

Yn cynnwys natur ac ansawdd ymlyniadau cynnar, nodweddion natur, addasu i newid, ymateb i straen a graddau hunanreolaeth briodol.

Hunaniaeth

Ymwneud ag ymdeimlad cynyddol y plentyn ei fod yn unigolyn ar wahân sy’n cael ei werthfawrogi.

Yn cynnwys barn y plentyn am ei hun a’i alluoedd, hunanddelwedd a hunan-barch, a bod â synnwyr cadarnhaol o unigoliaeth. Gall hil, crefydd, oedran, rhyw, rhywioldeb ac anabledd i gyd gyfrannu at hyn. Teimlad o berthyn a chael ei dderbyn gan ei deulu, ei gyfoedion a’r gymdeithas ehangach, yn cynnwys grwpiau diwylliannol eraill.

Perthnasoedd Teuluol a Chymdeithasol

Datblygu empathi a’r gallu i roi ei hun yn esgidiau rhywun arall.

Yn cynnwys perthynas sefydlog a chariadus gyda rhieni neu ofalwyr, perthynas dda gyda brodyr/chwiorydd, pwysigrwydd cynyddol cyfeillgarwch priodol i oedran gyda chyfoedion a phobl eraill bwysig ym mywyd y plentyn ac ymateb y teulu i’r perthnasoedd hyn.

Cyflwyniad Cymdeithasol

Ymwneud â dealltwriaeth gynyddol plentyn o’r ffordd y mae ymddangosiad, ymddygiad ac unrhyw nam yn cael eu gweld gan weddill y byd a’r argraff sy’n cael ei chreu.

Yn cynnwys pa mor briodol yw gwisg ar gyfer oedran, rhyw, diwylliant a chrefydd; glendid a hylendid personol; a chyngor sydd ar gael gan rieni neu ofalwyr am gyflwyniad mewn lleoliadau gwahanol.

Sgiliau Hunanofal

Ymwneud â phlentyn yn meithrin y galluoedd ymarferol, emosiynol a chyfathrebu sydd eu hangen er mwyn cynyddu annibyniaeth. Yn cynnwys sgiliau ymarferol cynnar gwisgo a bwydo, cyfleoedd i fagu hyder a sgiliau ymarferol i gymryd rhan mewn gweithgareddau i ffwrdd o’r teulu a sgiliau byw’n annibynnol fel plant hŷn.

Yn cynnwys anogaeth i feithrin dulliau datrys problemau cymdeithasol. Dylid rhoi sylw arbennig i effaith nam plentyn a ffactorau eraill sy’n ei wneud yn agored i niwed, ac i amgylchiadau cymdeithasol sy’n effeithio ar y rhain wrth ddatblygu sgiliau hunanofal.

 

Dimensiynau Gallu i Fagu Plant

Gofal Elfennol

Darparu ar gyfer anghenion corfforol y plentyn, a gofal meddygol a deintyddol priodol.

Yn cynnwys darparu bwyd, diod, cynhesrwydd, lloches, dillad glân a phriodol a hylendid personol boddhaol.

Sicrhau Diogelwch

Sicrhau bod y plentyn yn cael ei amddiffyn yn ddigonol rhag niwed neu berygl.

Yn cynnwys amddiffyn rhag niwed neu berygl sylweddol, a rhag cysylltiad gydag oedolion/plant eraill anniogel a rhag hunan-niweidio. Adnabod peryglon yn y cartref a thu hwnt.

Cynhesrwydd Emosiynol

Sicrhau bod anghenion emosiynol y plentyn yn cael eu diwallu, gwneud i’r plentyn deimlo’n arbennig ac yn werthfawr, a rhoi iddo ymdeimlad cadarnhaol o’i hunaniaeth hiliol a diwylliannol.

Yn cynnwys sicrhau gofynion y plentyn am berthynas gadarn, sefydlog a chariadus gydag oedolion pwysig, gan fod yn briodol o sensitif ac ymatebol i anghenion y plentyn. Cysylltiad corfforol priodol, a digon o gysur a chwtsus i ddangos cynhesrwydd, canmoliaeth ac anogaeth.

Symbyliad

Hyrwyddo dysgu a datblygiad deallusol y plentyn drwy anogaeth a symbyliad gwybyddol a hyrwyddo cyfleoedd cymdeithasol.

Yn cynnwys hwyluso datblygiad gwybyddol a photensial y plentyn drwy ryngweithio, cyfathrebu, siarad ac ymateb i iaith a chwestiynau’r plentyn, annog ac ymuno â chwarae’r plentyn, a hyrwyddo cyfleoedd addysgol. Galluogi’r plentyn i brofi llwyddiant a sicrhau presenoldeb yn yr ysgol neu gyfle cyfwerth. Helpu plentyn i ymdopi â heriau bywyd.

Arweiniad a Ffiniau

Galluogi’r plentyn i reoli ei emosiynau a’i ymddygiad.

 

 

Tasgau allweddol rhieni yw ymddwyn yn briodol a rheoli emosiynau a rhyngweithiad gydag eraill, ac arweiniad sy’n cynnwys gosod ffiniau, fel y gall y plentyn ddatblygu model mewnol o werthoedd moesol a chydwybodol, ac ymddygiad cymdeithasol sy’n briodol i’r gymdeithas y bydd yn tyfu i fyny ynddi. Y nod yw galluogi’r plentyn i dyfu’n oedolyn annibynnol, un sydd â’i werthoedd ei hun ac yn gallu ymddwyn yn briodol gydag eraill yn hytrach na gorfod dibynnu ar reolau allanol. Mae hyn yn golygu peidio â goramddiffyn plant rhag gallu archwilio a dysgu.

Yn cynnwys datrys problemau cymdeithasol, rheoli dicter, ystyried pobl eraill, a disgyblaeth effeithiol a’r gallu i lywio ymddygiad yn effeithiol.

Sefydlogrwydd

Darparu amgylchedd teuluol digon sefydlog fel y gall plentyn ddatblygu a chynnal ymlyniad cadarn gyda’r prif ofalwr(ofalwyr) er mwyn sicrhau’r datblygiad gorau posibl.

Yn cynnwys: sicrhau nad oes unrhyw amharu ar ymlyniadau cadarn, darparu cynhesrwydd emosiynol cyson dros amser ac ymateb mewn modd tebyg i’r un ymddygiad. Mae ymatebion rhieni’n newid ac yn datblygu yn unol â chynnydd datblygiadol plentyn. Hefyd, sicrhau bod plant yn cadw mewn cysylltiad ag aelodau pwysig o’r teulu a phobl eraill bwysig yn eu bywydau.

Mae gallu rhieni neu ofalwyr i sicrhau ymateb priodol a digonol i anghenion datblygiadol y plentyn, ac i addasu wrth i’w hanghenion newid dros amser, yn hollbwysig i ddatblygiad plentyn. Unwaith eto, enghreifftiau yn hytrach na rhestr gyflawn o dasgau rhieni yw’r disgrifiadau hyn.

Mae’n bwysig ystyried y gallu i fagu plant yng nghyd-destun strwythur a gweithrediad y teulu, a phwy sy’n rhoi gofal rhieni i’r plentyn.

Mewn sefyllfaoedd teuluol lle mae achos i boeni am yr hyn sy’n digwydd i blentyn, mae’n bwysicach fyth casglu tystiolaeth am sut mae’r tasgau hyn yn cael eu cyflawni gan bob rhiant neu ofalwr o ran:

·         ei ymateb i blentyn ac ymddygiad neu amgylchiadau’r plentyn;

·         y ffordd y mae’n ymateb i anghenion y plentyn a’r meysydd lle mae’n cael trafferth diwallu anghenion neu’n methu diwallu anghenion;

·         effaith y plentyn arno;

·         ansawdd y berthynas rhwng y rhiant a’r plentyn;

·         ei ddealltwriaeth o anghenion a datblygiad y plentyn;

·         ei ddealltwriaeth o dasgau rhieni a’u perthnasedd i anghenion datblygu’r plentyn;

·         effaith unrhyw anawsterau sydd ganddo ar ei allu i gyflawni tasgau a chyfrifoldebau rhieni (gwahaniaethu rhwng y realiti a’r dyhead);

·         effaith profiadau’r gorffennol ar ei allu cyfredol i fagu plant;

·         ei allu i wynebu a derbyn ei anawsterau;

·         ei allu i ddefnyddio cymorth a derbyn help;

·         ei allu i addasu a newid ei ymateb rhianta.

 

Mae arsylwi ar ryngweithio yn llawn mor bwysig â chael disgrifiad o’r rhyngweithio gan yr oedolion dan sylw.

Dylid rhoi sylw i’r tasgau magu plant sy’n cael eu cyflawni gan dadau neu ffigyrau tadol ochr yn ochr â thasgau mamau neu ffigyrau mamol. Mewn rhai teuluoedd, efallai fod un rhiant yn cyflawni’r rhan fwyaf neu bob un o’r tasgau magu plant. Mewn eraill, gall fod nifer o ofalwyr ym mywyd plentyn, pob un yn chwarae rhan wahanol a allai gael canlyniadau cadarnhaol neu negyddol. Gall ystod eang o oedolion, er enghraifft, neiniau/teidiau, llys-berthnasau neu warchodwyr plant, wneud cyfraniad pwysig at ofal plentyn. Rhaid gwahanu cyfraniad pob rhiant neu ofalwr at lesiant a datblygiad plentyn. Os yw plentyn wedi dioddef niwed sylweddol, mae’n arbennig o bwysig gwahaniaethu rhwng galluoedd y rhiant sy’n cam-drin y plentyn a’r rhiant sydd o bosibl yn amddiffyn y plentyn. Gall y wybodaeth hon gyfrannu hefyd at ddealltwriaeth o’r effaith y gallai perthynas y rhieni gyda’i gilydd ei chael ar allu’r naill a’r llall i ymateb yn briodol i anghenion eu plentyn.

Bydd ansawdd perthynas y rhieni, sy’n cael effaith ar lesiant y plentyn, yn cael ei ystyried yn fanylach yn yr adran a ganlyn ar ffactorau teuluol ac amgylcheddol.

 

Ffactorau Teuluol ac Amgylcheddol

Nid yw gofalu am blant a magu plant yn digwydd mewn gwagle. Caiff holl aelodau’r teulu eu heffeithio’n gadarnhaol ac yn negyddol gan y teulu ehangach, y gymdogaeth a’r rhwydweithiau cymdeithasol maent yn byw ynddo. Gall hanes teulu’r plentyn ac aelodau unigol o’r teulu gael effaith sylweddol ar y plentyn a’r rhieni. Er enghraifft, efallai fod rhai o aelodau’r teulu wedi cael eu magu mewn amgylchedd cwbl wahanol i’r plentyn, efallai fod eraill wedi gorfod gadael eu mamwlad oherwydd rhyfel neu amodau anodd eraill, ac efallai fod eraill wedi cael eu cam-drin a’u hesgeuluso fel plant.

Gall adrodd hanesion a phrofiadau teuluol, ac effaith y rheini, chwarae rhan bwysig wrth geisio deall beth sy’n digwydd i deulu yn awr. Gall fod cysylltiad pwysig rhwng gallu oedolyn i fagu plant yn awr a’i brofiadau o fywyd teuluol pan oedd yn blentyn a’i brofiadau fel oedolyn cyn yr anawsterau presennol. Efallai fod y teulu yng nghanol cyfnod o newid, er enghraifft, teuluoedd sy’n ffoaduriaid.

Gall dealltwriaeth o sut mae’r teulu’n arfer gweithredu, a sut mae’n gweithredu dan straen, yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn wrth bennu pa ffactorau allai helpu rhieni i gyflawni eu rolau magu plant. Mae ansawdd a natur y berthynas rhwng rhieni plentyn a sut mae hyn yn effeithio ar y plentyn yn arbennig o bwysig. Er enghraifft, mae gwrthdaro parhaus rhwng rhieni yn cael effaith andwyol ar les plant. Gall ansawdd y berthynas rhwng brodyr a chwiorydd fod yn hynod arwyddocaol i les plentyn hefyd. Rhaid ystyried y gwahanol fathau o deuluoedd a strwythurau teuluol sy’n bodoli, yn enwedig pwy sy’n cyfrif fel teulu a phwy sy’n bwysig i’r plentyn.

Bydd angen edrych yn ofalus ar effaith gofalwyr lluosog, gyda dealltwriaeth o’r cyd-destun ar gyfer darparu gofal. Gall plant gael eu diogelu rhag canlyniadau andwyol problemau magu plant pan fo rhywun arall yn diwallu anghenion datblygiadol y plentyn. Mae’n bwysig hefyd gofnodi pan fo tystiolaeth nad oes unrhyw un yn ymateb yn briodol i’r plentyn. O dan rai amgylchiadau, gall plentyn â sawl gofalwr fod yn fwy agored i gael ei drin yn wael. Dylid rhoi sylw arbennig i anghenion plant anabl sy’n cael gofal gan lawer o bobl wahanol fel rhan o’u bywyd bob dydd, a’u hangen am gysondeb yn y gofalwyr hynny i’r graddau y mae hynny’n rhesymol.

 

FFACTORAU TEULUOL AC AMGYLCHEDDOL

Hanes a Gweithrediad y Teulu

Mae hanes y teulu’n cynnwys ffactorau genetig a seico-gymdeithasol.

Mae gweithrediad y teulu’n cael ei ddylanwadu gan bwy sy’n byw ar yr aelwyd a sut maent yn perthyn i’r plentyn; newidiadau sylweddol yng nghyfansoddiad y teulu/yr aelwyd; hanes profiadau plentyndod y rhieni; llinell amser digwyddiadau pwysig bywyd a beth maent yn ei olygu i aelodau’r teulu; natur gweithrediad y teulu, yn cynnwys y berthynas rhwng brodyr a chwiorydd a’i heffaith ar y plentyn; cryfderau ac anawsterau’r rhieni, yn cynnwys rhiant absennol; y berthynas rhwng y rhieni sydd wedi gwahanu.

Teulu Ehangach

Pwy sy’n cael eu hystyried yn aelodau o’r teulu ehangach gan y plentyn a’r rhieni? Yn cynnwys pobl sy’n perthyn a phobl nad ydynt yn perthyn, ac aelodau o’r teulu ehangach sy’n absennol. Beth yw eu rôl a’u pwysigrwydd i’r plentyn a’r rhieni, ac ym mha ffordd yn union?

Tai

A oes gan y llety amwynderau a chyfleusterau sylfaenol sy’n briodol i oedran a datblygiad y plentyn a’r bobl eraill sy’n byw yno? A yw’r cartref yn hygyrch ac yn addas i anghenion aelodau anabl o’r teulu?

Yn cynnwys tu mewn a thu allan y llety a’r cyffiniau agos.

Mae amwynderau sylfaenol yn cynnwys dŵr, gwres, carthffosiaeth, cyfleusterau coginio, trefniadau cysgu, gallu chwarae’n briodol ac yn ddiogel, a glendid, hylendid a diogelwch, a’u heffaith ar fagwraeth y plentyn.

Cyflogaeth

Pwy sy’n gweithio ar yr aelwyd, eu patrwm gwaith ac unrhyw newidiadau? Pa effaith gaiff hyn ar y plentyn? Beth yw barn aelodau’r teulu am waith neu absenoldeb gwaith? Sut mae’n effeithio ar eu perthynas gyda’r plentyn?

Yn cynnwys profiad plant o waith a’i effaith arnynt.

Incwm

Yr incwm sydd ar gael dros gyfnod hir o amser. A yw’r teulu’n cael yr holl fudd-daliadau y mae ganddo’r hawl iddynt? A yw’r incwm yn ddigonol ar gyfer anghenion y teulu? Y ffordd y caiff adnoddau’r teulu eu defnyddio. A oes unrhyw drafferthion ariannol sy’n effeithio ar y plentyn?

Integreiddiad Cymdeithasol y Teulu

Archwilio cyd-destun ehangach y gymdogaeth a’r gymuned leol a’u heffaith ar y plentyn a’r rhieni.

Yn cynnwys y graddau y mae’r teulu wedi ymdoddi neu ei ynysu, eu grwpiau cymheiriaid, ffrindiau a rhwydweithiau cymdeithasol, a’u pwysigrwydd i’r teulu.

Adnoddau Cymunedol

Yn disgrifio holl gyfleusterau a gwasanaethau’r gymdogaeth, yn cynnwys gwasanaethau sydd ar gael i bawb fel gofal iechyd sylfaenol, gofal dydd ac ysgolion, mannau addoli, cludiant, siopau a gweithgareddau hamdden.

Yn cynnwys yr adnoddau sydd ar gael, pa mor hygyrch ydynt a safon yr adnoddau hynny, a’u heffaith ar y teulu, yn cynnwys aelodau anabl.

Mewn teuluoedd lle nad yw rhiant yn byw ar yr un aelwyd â’r plentyn, mae’n bwysig canfod rôl y rhiant hwnnw ym mywyd y plentyn a phwysigrwydd y berthynas â rhiant hwnnw i’r plentyn. Ni ellir rhagdybio bod rhieni sy’n byw ar wahân wedi gwahanu. Efallai eu bod wedi cytuno i fyw ar wahân.

Gall ystod eang o ffactorau amgylcheddol hybu neu lesteirio gweithrediad y teulu. Yma, mae’n bwysig cadw meddwl agored, a meddwl yn greadigol, am y ffactorau teuluol ac amgylcheddol a ddisgrifir ar y dudalen flaenorol.

Dylid ystyried yn ofalus sut mae’r ffactorau hyn yn effeithio ar gynnydd plentyn ac ymatebion y rhieni. Gellir dangos hyn drwy’r enghreifftiau canlynol o’r rhyngberthynas rhwng ffactorau o’r fath a datblygiad plentyn:

_ Hanes y teulu

Gall plentyn fod â chyflwr genetig neu dueddiad i gyflwr, fel anhwylder y crymangelloedd neu glefyd Huntington, a all effeithio ar iechyd corfforol neu iechyd meddwl a’r angen am wasanaethau yn awr neu yn y dyfodol.

_ Gweithrediad y teulu

Er eu bod newydd wahanu, mae’r rhieni’n gwneud penderfyniadau am ddigwyddiadau allweddol ym mywyd bachgen 10 oed gyda’i gilydd fel ei fod yn parhau i fynychu’r un ysgol, yn cadw criw o ffrindiau da, ac yn cael ei gefnogi gant y cant gan y ddau riant yn ei addysg. Mae hyn yn ei alluogi i wneud yn dda yn yr ysgol.

_ Teulu ehangach

Efallai fod plentyn wedi meithrin perthynas agos a chariadus gyda rhiant un o’i ffrindiau sydd, dros nifer o flynyddoedd, wedi gwneud yn iawn am broblemau cronig y rhieni yng nghartref y teulu, gan roi ymdeimlad o berthyn a hunan-barch i’r plentyn hwnnw. Gallai hyn fod yn adnodd i droi ato os yw’r teulu’n chwalu.

_ Tai

Efallai fod llety tamp, llawn plâu a gorlawn yn cyfrannu at bwysau geni isel, diffyg cynnydd babi, a phroblemau cronig gyda’r glust, y trwyn a’r frest. Rhaid gweithredu ar frys.

_ Cyflogaeth

Gallai’r disgwyliad i ferch 13 oed roi help llaw rheolaidd ym musnes y teulu olygu, yn sydyn iawn, ei bod hi ar ei hôl hi gyda’i gwaith ysgol ac yn ymddwyn yn anodd yn yr ystafell ddosbarth.

_ Incwm

Efallai fod incwm isel dros flynyddoedd lawer ac anallu rhieni i ymdopi ar yr incwm hwn olygu bod unigolyn ifanc yn cael ei fwlio yn yr ysgol oherwydd nad yw e’n gwisgo’r brand iawn.

_ Integreiddiad cymdeithasol y teulu

O ganlyniad i aflonyddu hiliol a bwlio di-baid mewn cymdogaeth, gall unigolyn ifanc yn ei arddegau o deulu lleiafrif ethnig gael ei ynysu a’i allgau o’r profiadau cadarnhaol a ddaw o gael criw da o ffrindiau, a hynny ar adeg bwysig o ddatblygu ei hunaniaeth.

_ Mynediad i adnoddau cymunedol

Gall gwybod am adnoddau yn y gymuned sy’n hygyrch ac yn croesawu plant anabl alluogi mam sengl unig i drefnu gofal a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol ar gyfer ei merch anabl 6 oed, fel ei bod yn gallu parhau i weithio.

Dylid mynd ati’n ofalus i ddeall a dadansoddi’r ffordd gymhleth y mae ffactorau yn y tri maes hyn yn ymwneud â’i gilydd. Efallai fod gan rieni eu problemau eu hunain sy’n cael effaith, drwy eu hymddygiad, ar eu gallu i ymateb i anghenion eu plentyn. Gallai hyn fod yn wir am lawer o sefyllfaoedd gwahanol. Gallai gynnwys rhieni sy’n methu darllen neu ysgrifennu, ac nad ydynt, felly, yn gallu ymateb i nodiadau sy’n cael eu hanfon adref o’r ysgol. Ar y llaw arall, gallai gynnwys merch â chreithiau emosiynol ar ôl gweld ei thad yn ymosod ar ei mam yn rheolaidd.

Gall effaith problemau arbennig sydd gan rieni (salwch meddwl, trais domestig, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol) ar ddatblygiad plentyn gael effaith andwyol ar allu rhiant i ymateb i anghenion ei blentyn. Er bod rhai plant yn tyfu i fyny heb fod ddim gwaeth, mae gan eraill anhwylderau emosiynol ac ymddygiadol o ganlyniad i’w profiadau yn ystod plentyndod. Gall y wybodaeth hon gynorthwyo gweithwyr proffesiynol i fod yn glir am effaith anawsterau rhiant ar blentyn. Mewn rhai sefyllfaoedd, lle mae problemau’r rhieni yn ddifrifol, fel salwch seiciatrig difrifol neu gamddefnyddio sylweddau, efallai y bydd angen asesiadau ar y cyd neu gyfredol; i edrych ar broblemau’r rhiant, effaith y problemau hynny ar y plentyn, ac effaith y plentyn ar y rhiant. Dylid canolbwyntio ar anghenion y plentyn wrth gynnal asesiadau o’r fath.

Mae ymchwil wedi dangos cysylltiad cryf rhwng trais domestig a cham-drin plant. Mae wedi dangos hefyd nad yw pob rhiant a ddioddefodd gamdriniaeth neu amddifadedd yn blentyn yn mynd ymlaen i drin ei blant yn wael, ond mae cyfran sylweddol o rieni sy’n niweidio eu plant wedi cael eu cam-drin eu hunain.

Yn aml, mae’r rhyngweithio rhwng y ffactorau gwahanol yn gymhleth, a dyma pam mae’n bwysig bod:

·         gwybodaeth yn cael ei chasglu a’i chofnodi’n systematig, a hynny’n ofalus ac yn gywir;

·         gwybodaeth yn cael ei gwirio a’i thrafod gyda rhieni a, lle bo’n briodol, gyda’r plentyn;

·         bod gwahaniaeth barn am wybodaeth a’i phwysigrwydd yn cael ei gofnodi’n glir;

·         bod y cryfderau a’r anawsterau o fewn teuluoedd yn cael eu hasesu a’u deall;

·         yr elfennau ym myd y plentyn sy’n ei wneud yn agored i niwed a’r ffactorau amddiffynnol yn cael eu harchwilio;

·         effaith yr hyn sy’n digwydd ar y plentyn yn cael ei nodi’n glir.

 

Felly, map cysyniadol yw’r broses asesu, i’w ddefnyddio i ddeall beth sy’n digwydd i bob plentyn sy’n tyfu i fyny mewn pob math o amgylchiadau. Yn achos y rhan fwyaf o blant sy’n cael eu hatgyfeirio neu’r teuluoedd sy’n gofyn am help, bydd y materion sy’n destun pryder yn gymharol syml, bydd rhieni’n deall bod angen cymorth ac ni fydd hi’n anodd gweld yr effaith ar y plentyn. Ar gyfer nifer llai o blant, bydd y materion sy’n achosi pryder yn fwy difrifol a chymhleth, a’r berthynas rhwng eu hanghenion nhw, ymatebion eu rhieni a’r amgylchiadau y maent yn byw oddi tanynt yn llai syml. Yn y sefyllfaoedd hyn, bydd angen asesiad pellach, manylach ac, mewn rhai achosion, asesiad arbenigol.

Ymarfer Cynhwysol

Sail y broses asesu yw’r egwyddor bod plant yn blant yn gyntaf, waeth beth sy’n gwneud rhai plant yn wahanol i eraill. Mae hyn yn her i staff – sut mae datblygu ymarfer cynhwysol sy’n cydnabod bod gan bob plentyn yr un anghenion datblygiadol i gyrraedd eu llawn botensial ond bod cyflymder neu batrwm cynnydd plant unigol yn gallu amrywio oherwydd ffactorau sy’n gysylltiedig ag iechyd a namau. Ar yr un pryd, rhaid rhoi sylw priodol i ddylanwadau pwysig eraill ar ddatblygiad plant. Ymhlith y pwysicaf mae ffactorau genetig, ansawdd yr ymlyniad â’r prif ofalwyr ac ansawdd profiadau bywyd bob dydd.

Wrth asesu anghenion ac amgylchiadau plentyn, rhaid gofalu bod y materion sy’n cyfrannu at hunaniaeth a llesiant plant, eu cynnydd a’u canlyniadau yn cael eu deall yn llawn a’u hymgorffori yn y fframwaith asesu.

Wrth asesu anghenion plant, rhaid i ymarferwyr ystyried yr amrywiaeth ymysg plant, deall yr hyn sydd wrth wraidd yr amrywiaeth a rhoi sylw gofalus i’w effaith ar ddatblygiad y plentyn a’r rhyngweithio ag ymatebion rhieni a ffactorau teuluol ac amgylcheddol ehangach.

Mae asesu’n golygu edrych ar wahaniaethau plant a theuluoedd mewn modd gwybodus, sensitif ac anfeirniadol. Gall anwybodaeth arwain at stereoteipio a rhagdybiaethau amhriodol, a niweidiol hyd yn oed, sy’n arwain at ddiffyg cywirdeb a chydbwysedd wrth ddadansoddi anghenion plant. Er mwyn sicrhau ymarfer sensitif a chynhwysol, dylai staff osgoi:

·         defnyddio un set o ragdybiaethau a stereoteipiau diwylliannol i ddeall amgylchiadau’r plentyn a’r teulu;

·         ansensitifrwydd at amrywiadau hiliol a diwylliannol o fewn grwpiau a rhwng unigolion;

·         gwneud rhagdybiaethau anrhesymegol heb dystiolaeth;

·         peidio ag ystyried profiadau o unrhyw wahaniaethu wrth ystyried ymateb unigolyn i wasanaethau cyhoeddus;

·         peidio ag ystyried y rhwystrau sy’n atal integreiddiad cymdeithasol teuluoedd ag aelodau anabl;

·         rhoi arwyddocâd i wybodaeth heb gadarnhau’r dehongliad gyda’r plentyn ac aelodau’r teulu.

 

Mae asesiad, sy’n deillio o anghenion datblygiadol plant ac sy’n ystyried y cyd-destun y maent yn tyfu i fyny ynddo hefyd, yn fwy arwyddocaol mewn perthynas â phlant sy’n debygol o brofi gwahaniaethu yn eu bywyd. Gallai’r plant hyn a’u teuluoedd fod dan anfantais o’r herwydd a methu â manteisio ar wasanaethau priodol.

 

 

 



[1] neu’r rhiant neu’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant yn achos plentyn, neu unrhyw berson sydd ag awdurdod i wneud penderfyniadau ar ran rhywun nad oes ganddo’r gallu i gytuno

 

[2] Caldicott 2 - http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=950&pid=68298

 

[3] Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru http://www.waspi.org/

 

[4] Mae dolenni i’r codau ymarfer ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yma:

https://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=744&pid=36235

 

https://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=744&pid=36239